Ymgyrch Busnes Newydd i Annog Plant i Fynd Allan i’r Awyr Iach

08/02/19

Mae mam ifanc fentrus a dreuliodd ei phlentyndod ei hun ‘yn rasio o amgylch bryniau a chaeau chwarae a ddim ond yn mynd adref pan roedd hi’n llwgu’ wedi ymgymryd ag ymgyrch i annog plant i ddiffodd eu sgriniau a mynd allan i gefn gwlad.

 

Sefydlodd Elizabeth Caddy, o Drelewis, Merthyr, ei brand dillad plant, Pirates and Paperdolls, ym mis Medi, mewn ymgais i annog plant i fwynhau’r awyr agored oherwydd, fel y dywed, mae ‘mwd yn golchi’n lân.’

Dywedodd Elizabeth, 33 oed: “Roeddwn yn ffodus cael plentyndod a oedd yn cynnwys bod allan yn yr awyr iach yn aml. Tyfais i fyny ym Mryniau Malvern ac roedd yna gae chwarae enfawr ger fy nhŷ, felly byddwn allan trwy’r dydd gyda fy ffrindiau, yn baeddu a byddwn ond yn mynd adref pan oeddwn yn llwglyd. Mae gen i ddau fachgen fy hun nawr, Alexander, 11 oed a Michael, wyth oed, ac rwy’n gwybod cymaint o amser y mae plant yn treulio ar iPads ac iPhones. Rwy’n cyfaddef bod yna adegau yn ystod gwyliau’r haf pan oedd rhaid i mi hel y bechgyn allan a dweud wrthynt ‘ewch i chwarae!’, ond yn ffodus, maen nhw’n heini iawn beth bynnag.”

Mae Alexander a Michael yn helpu i ysbrydoli rhai o gasgliadau dillad y label Pirates and Paperdolls, ac mae Elizabeth wedyn yn cynllunio ac yn cynhyrchu’r dillad o’i gweithdy yn eu cartref.

“Mae fy nillad yn niwtral o ran y rhywiau ac yn cael eu cynllunio gyda phlant dan sylw. Er enghraifft, hoff anifail fy mab Michael yw jiraffod a sylwais fod dillad plant gyda jiraffod arnynt yn dueddol o gael eu dylunio ar gyfer merched, felly penderfynais gysylltu ag un o’r prif adwerthwyr dillad plant i holi pam. Eu hateb oedd ‘oherwydd bod gan jiraffod flew amrant hir, maen nhw’n cael eu hystyried yn fenywaidd’. Roeddwn yn teimlo bod hynny ychydig yn hurt, felly gyda Michael dan sylw, byddaf yn dylunio ac yn gwneud dilledyn gyda jiraffod arno. Yn yr un modd, rwy’n ofalus gyda sloganau ar fy nillad, gan fod yn rhaid iddo olygu rhywbeth a rhaid iddo gael llais plentyn. Er enghraifft, mae un o fy nyluniadau logo yn dweud ‘grown-ups call it getting lost, I call it adventure’. Ac mae’n wir, pan fydd oedolion yn cymryd tro anghywir yn y car ac yn ymddiheuro am fynd ar goll, mae fy mab yn dweud wrthyf, ‘nid ydym ar goll, rydym yn mynd ar antur.”

Megis dechrau mae antur Elizabeth, ond mae hi’n dweud: “Mae nawr yn adeg dda i ddechrau busnes bach: Rwy’n gwybod am lawer o fusnesau bach sy’n gwneud yn dda iawn. Cefais y syniad o ddechrau’r busnes pan oeddwn yn fyfyriwr dylunio ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru ac roedd fy nghasgliad cyntaf o ddillad yn rhan o fy mhrosiect terfynol. Des ar draws marchnad arbenigol heb ei chyffwrdd ac rwy’n defnyddio fy mrand i adrodd stori – i annog pobl i ystyried sut mae plant yn cysylltu â’r byd. Un o gryfderau eraill Pirates and Paperdolls yw fy mod yn dylunio ac yn cynhyrchu’r dillad fy hun, a theimlaf fod pobl yn gwerthfawrogi’r ffaith fod fy nillad yn cael eu gwneud yma yng Nghymru.

“Mae yna lawer o gefnogaeth ar gael ar gyfer busnesau newydd. Cefais gefnogaeth gan Busnes Cymru, cysylltais â nhw tra oeddwn yn y brifysgol, ac arhosais mewn cysylltiad â nhw tra oeddwn yn paratoi i sefydlu’r busnes. Yn ddiweddar es i lansiad Hwb Menter newydd Business in Focus yn Nhŷ Crownford, Merthyr Tudful. Bydd yr hwb yn adnodd gwych i entrepreneuriaid ac roeddwn yn falch cael mynd i’r lansiad i drafod fy musnes, roedd hefyd yn gyfle i wneud cysylltiadau gwerthfawr ac i ganfod cyfleoedd newydd. Mae gennym rwydwaith cefnogol o entrepreneuriaid a chyrff megis Busnes Cymru a Business in Focus yma yng Nghymru, a byddwn yn annog entrepreneuriaid eraill i fanteisio arno.”

Dywedodd Amanda Keen, Rheolwr Tîm Cynghorwyr o Business in Focus: “Rydym yn falch iawn gweld busnes cyffrous newydd Elizabeth yn cael sylfaen dda. Bob dydd rydym yn gweld pobl ysbrydoledig fel Elizabeth yn creu brandiau newydd trawiadol a dyfeisgar ac yn gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn llwyddo. Nid yn unig mae Elizabeth yn creu cynnyrch ac yn ei farchnata, mae hi hefyd yn awyddus iawn i greu mudiad, ethos a diwylliant, sy’n rhywbeth y mae mwy a mwy o frandiau yn canolbwyntio arno – hyd yn oed y rhai sydd wedi bod ar ein prif strydoedd ers cenedlaethau. Mae Elizabeth yn rhan o duedd gyfareddol.

“Mae hi’n gywir i dynnu sylw at y ffaith bod yr amodau yn ffafriol iawn ar gyfer pobl fentrus fel hi. O’n rhan ni, rydym yn cefnogi cannoedd o fusnesau bob blwyddyn i wireddu eu syniad busnes ac i dyfu, trwy ddarparu mynediad at gyllid, hyfforddiant sgiliau, mentora a chyngor hir dymor, ac mae gennym bortffolio o eiddo ar draws De Cymru, sy’n berffaith ar gyfer busnesau a mentrau bach. Ers i ni symud i Dŷ Crownford yn ddiweddar rydym wedi gweld bod ardal Merthyr yn llawn talent entrepreneuraidd ac rydym yn gobeithio y gallwn gefnogi mwy o bobl o’r ardal, i wireddu eu huchelgais.”

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o wasanaethau Business in Focus, cysylltwch â 01656 868545.