Y Gwasanaeth Datganiadau Tollau i ddod yn unig lwyfan tollau’r DU

06/08/21

Heddiw, mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi cyhoeddi y bydd y Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), system a sefydlwyd ar dechnoleg flaengar, yn gweithredu fel unig blatfform tollau’r DU o 31 Mawrth 2023 ymlaen.

Bydd CThEM yn cau System y Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) ar 31 Mawrth 2023. O’r dyddiad hwn ymlaen, bydd angen i bob busnes ddatgan nwyddau drwy’r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS).

Ar hyn o bryd, defnyddir CDS ar gyfer datganiadau Gogledd Iwerddon a Gweddill y Byd ac mae eisoes wedi prosesu mwy na miliwn o ddatganiadau ers iddo fynd yn fyw yn 2018.

Cyn i’r system gael ei chau yn gyfan gwbl ar 31 Mawrth 2023, bydd gwasanaethau CHIEF yn cael eu tynnu’n ôl mewn dau gam:

– ar 30 Medi 2022: datganiadau mewnforio yn cau ar CHIEF

– ar 31 Mawrth 2023: datganiadau allforio yn cau ar CHIEF / y System Allforio Genedlaethol (NES)

Dywedodd Sophie Dean a Katherine Green, Cyfarwyddwyr Cyffredinol, Ffiniau a Masnachu, CThEM:

“Mae CDS yn rhan allweddol o gynlluniau’r llywodraeth ar gyfer ffin wedi’i digideiddio’n llawn sy’n arwain y byd ac a fydd yn helpu busnesau’r DU i fasnachu ac i ffynnu.

Bydd y datganiad hwn yn darparu eglurder ar gyfer masnachwyr a diwydiant y ffiniau. Rydym wedi ymrwymo i wneud y trosglwyddiad mor esmwyth â phosibl ac rydym yn gweithio i wneud yn siŵr bod masnachwyr wedi’u cefnogi’n llawn gyda’r prosesau newydd.”

Mae CDS wedi’i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd mewn ymgynghoriad â diwydiant y ffiniau a bydd yn darparu platfform mwy diogel a sefydlog sydd â’r capasiti a’r gallu i dyfu yn unol â chynlluniau masnachu uchelgeisiol y Llywodraeth. Bydd symud i un system ar gyfer yr holl fewnforion ac allforion hefyd yn darparu arbedion i’r trethdalwr.

Mae rhagor o wybodaeth ar GOV.UK er mwyn helpu busnesau ac asiantau i baratoi ar gyfer CDS. Mae hefyd nifer o wasanaethau byw i gynorthwyo cwsmeriaid ar gael.