Swyddfeydd Busnes mewn Ffocws yn Cynorthwyo Entrepreneuriaid i Lwyddo

09/01/19

Mae busnesau bychan a chanolig yn asgwrn cefn economi Cymru ers tro byd, ac maent yn gyfrifol am gyfrannu biliynau at yr economi. Mae’r entrepreneuriaid sy’n arwain y mentrau cyffrous hyn bellach yn canolbwyntio’n gynyddol ar leihau eu costau, denu doniau cyffrous a darparu amgylcheddau o radd flaenaf ar gyfer eu timau.

Un o’r dulliau allweddol maent yn ei ddefnyddio i wneud hyn yw sbarduno’r duedd i weithio’n hyblyg a darparu mannau gweithio hyblyg, ac mae Buses mewn Ffocws yn ymwybodol o hyn ers tro – ac mae’n barod i ddiwallu’r anghenion hyn.

Ar draws portffolio eiddo Busnes mewn Ffocws, o Gaerdydd i Ferthyr Tudful ac o Drefforest i Gasnewydd, mae oddeutu 350 o gwmnïau bychan a chanolig eu maint yn elwa o’n cynnig sydd wedi’i deilwra’n unigryw – rhywbeth sydd yn ein barn ni yn hynod o ddeniadol a chyfleus ar gyfer busnesau bychan a chanolig eu maint yng Nghymru.

Mae’r cleientiaid sy’n denantiaid i ni yn amrywio o elusennau i gwmnïau TG, cwmnïau cyfryngau a chwmnïau newydd ym maes technoleg, ac mae ein tenantiaid yn elwa’n llawn o’n cynigion deniadol megis prydlesi hyblyg, ystafelloedd cyfarfod rhagorol, mannau a chyfleusterau cyffredin dymunol, yn ogystal â mynediad at amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo busnesau, megis y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, Busnes Cymru a Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Un enghraifft wych o hyn yw ein safle newydd ym Merthyr Tudful, Tŷ Crownford. Mae’r safle eisoes yn cartrefu nifer o fusnesau bach a chanolig Cymreig, yn cynnwys Alpha Safety Training Ltd, Roberts Keen IFA, Karen Blake Coaching, Trident Civil Engineering ac Incom Wales.

Yn ôl Rheolwr Gyfarwyddwr Incom Wales, Dean James: “Fel busnes newydd, mae rheoli ein treuliau yn flaenoriaeth hollbwysig i ni, felly mae’r lle swyddfa hyblyg a’r telerau hyblyg a gynigir gan Busnes mewn Ffocws yn ddelfrydol – mae cael yr holl gostau misol wedi’u cyfuno mewn un bil yn hynod o fuddiol. Rydym ni hefyd yn bwriadu symud i le mwy o fewn Tŷ Crownford wrth i ni dyfu, yn hytrach na gorfod dadwreiddio’r busnes a symud i rywle arall. Mae’n ddefnyddiol hefyd bob mewn adeilad gydag entrepreneuriaid a chwmnïau newydd eraill – byddwn yn rhannu profiadau a chyngor gyda’n gilydd. Rydym ni’n darparu gwasanaethau cyfathrebu ar gyfer busnesau, ac a dweud y gwir, rydym ni wedi cael gwaith gan ein cymdogion yn Nhŷ Crownford, a gan Busnes mewn Ffocws hefyd, sy’n ddefnyddiol iawn i ni fel cwmni bychan.”

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Eiddo Busnes mewn Ffocws: “Rydym ni’n falch iawn o’n portffolio eiddo cynyddol, oherwydd mae’n dangos fod Busnes mewn Ffocws yn iach ac yn ffynnu, ac mae hefyd yn dangos ein bod ni yn gwneud cyfraniad, fel menter gymdeithasol, at gynorthwyo rhai o’r cyfranwyr mwyaf gwerthfawr at economi Cymru.

“Mae ffigurau diweddaraf Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dangos fod gan fusnesau bychan yng Nghymru drosiant o £126m bob dydd. Wrth wraidd y ffigurau hyn, ceir miloedd o fusnesau bychan sy’n darparu cyflogaeth a gwasanaethau lleol ledled ein cymunedau. Rydym ni ar fin lansio dau safle deori busnes ychwanegol, yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd. Dyma’r hybiau menter rydym ni’n eu darparu ar ran Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i fuddsoddiad o £4 miliwn mewn menter ac i ddarparu’r math o amgylchedd gwaith y mae ar fusnesau bychan a chanolig ei angen.

“Mae’n amlwg o nifer o astudiaethau diweddar fod entrepreneuriaid yn chwilio am fath newydd o fywyd gwaith ac mae hynny’n cynnwys math newydd o le swyddfa a systemau cynorthwyo busnesau hefyd. Rydym ni’n falch o allu diwallu’r anghenion hyn a sicrhau fod entrepreneuriaid yn cael y math o gymorth ystyrlon y mae arnynt ei angen er mwyn gallu bod yn llwyddiannus.”

I gael rhagor o fanylion am eiddo masnachol Busnes mewn Ffocws, trowch at: adran eiddo