Simon yn troi’n symudol gyda blas o’r Caribî

13/07/21

Mae gwreiddiau Simon Turner yn St Lucia ac yn ystod y cyfnod clo, daeth o hyd i lyfr nodiadau yn yr atig, yn llawn ryseitiau Caribïaidd ei daid, yr oedd wedi’i adael yno ar ôl ymweld â’r DU.

 Tra roedd ar ffyrlo ac yn cael trafferth gyda’i iechyd meddwl, rhoddodd Simon gynnig ar rai o’r ryseitiau a sylwi eu bod nhw’n anhygoel. Rhannodd neges ar Facebook i ddweud ei fod am goginio i godi arian i’r GIG yn ystod y cyfnod clo.

Yn ogystal â defnyddio ei arian ei hun i dalu am gynhwysion, gofynnodd Simon am gyfraniadau ar JustGiving ac roedd pobl yn ciwio i lawr y stryd am ei fwyd. Yna, dechreuodd gymryd archebion dros Instagram/Facebook, gyda phrydau’n gwerthu allan o fewn 48 awr. Hefyd, dechreuodd Simon baratoi prydau ar gyfer rhai o gleientiaid ffitrwydd ei wraig, ac ychydig wedi hynny, gofynnodd Clwb Rygbi Penarth iddo goginio ychydig iddyn nhw unwaith y mis. Rhoddodd hyn y syniad i Simon ddechrau uned fwyd symudol – Taste of Turner, yn gweini ryseitiau ei deulu o St Lucia yn y Caribî.

“Ro’n i wedi fy synnu gyda’r ymateb i fy nghoginio creadigol. Cefais lawer iawn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol”

Sut gwnaeth Benthyciadau Dechrau Busnes helpu Simon droi ei syniad yn symudol

Ar ôl y sawl cyfnod clo, fis Mai 2021 cysylltodd Simon â Business in Focus i gael cymorth busnes arbenigol ac i gael benthyciad £15,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a roddodd Lisa Stretch, yr Ymgynghorydd Busnes arbenigol, ar-lein yn gyfan gwbl. Roedd y cyllid ar gyfer prynu fan arlwyo a chyfalaf gweithio cychwynnol er mwyn talu cyflogau gweithwyr yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Yn dilyn y gefnogaeth gyda pharatoi ar gyfer y cais am fenthyciad, bydd Simon yn parhau i dderbyn mentora a chefnogaeth gan Lisa, i sicrhau ei fod yn derbyn y cyngor perthnasol wrth wneud penderfyniadau busnes am y 12 mis nesaf, yn rhan o’r gwasanaeth am ddim.

“Rhoddodd Lisa ganmoliaeth i mi’n gyson, a chefnogodd fi i ddatblygu cynllun busnes ardderchog, llif arian a rhagolwg am 12 mis”

Eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae gan Simon leoliad rheolaidd mewn clwb rygbi poblogaidd lleol sy’n gwerthu Bwyd Stryd arall, daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Frechdanau Cymru i gogydd proffesiynol, ac mae wedi bod ar y radio lleol. Ar hyn o bryd, mae Simon yn gweithio yn yr uned symudol o amgylch ei swydd amser llawn fel amcangyfrifwr sgaffaldio. Mae hefyd yn cyflogi aelod o’r teulu i’w gefnogi yn ystod yr wythnos. Mae’n gweithio yn y trelar ar ben ei hun ar y penwythnos, a’r cynllun yw gweithio yno’n amser llawn yn y pen draw, gyda chyfle ar y gweill i ymddangos ar y BBC. Bellach, mae ganddo lwybr clir ar gyfer ei ddyfodol, a dyfodol y genhedlaeth nesaf.

“Er gwaetha’r ffaith fy mod yn nerfus, roedd Lisa wedi ymrwymo. Roedd yn credu ynof fi bob cam o’r ffordd, ac mae wedi newid fy mywyd”

 

Lisa Stretch, Ymgynghorydd Busnes Benthyciadau Dechrau Busnes
“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio gyda Simon, mae’n gymeriad diddorol a hoffus iawn. Roedd ei syniad gwych yn gallu tyfu’n naturiol drwy godi arian ar gyfer y GIG yn ystod Covid-19”

 Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol a gefnogir gan y llywodraeth sydd ar gael i unigolion dros 18 sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnes yn y DU. Prif nod y Benthyciadau Dechrau Busnes yw sicrhau bod busnesau newydd dichonadwy yn cael mynediad at y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Os ydych yn derbyn benthyciad, byddwn yn eich cefnogi chi drwy eich taith, ac yn darparu mentor busnes i chi am 12 mis o’r dyddiad rydych yn derbyn eich benthyciad. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes ar gael i fusnesau sydd ar fin lansio, neu’r rheiny sydd wedi bod yn masnachu am hyd at 24 mis.

Dysgwch fwy am Fenthyciadau Cychwyn Busnes a gwneud cais ar-lein