Rhwydweithio a Digwyddiadau

Mae Busnes mewn Ffocws yn cynnig amrywiaeth o gontractau Llywodraeth Cymru a Chyngor Lleol, ac felly mae gennym fynediad at yr holl ddigwyddiadau busnes newydd yng Nghymru i’ch helpu chi i ddeall beth sydd angen ei wybod arnoch i ddatblygu eich syniad busnes, dechrau a thyfu eich busnes. Edrychwch ar bob rhaglen i weld beth sydd ar y gweill a all eich cefnogi chi ar eich taith fusnes, waeth lle rydych chi wedi cyrraedd – ac mae’r cyfan am ddim.

Busnes CymruPrif Wasanaeth Lywodraeth Cymru sy’n darparu cefnogaeth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru.

Hybiau Menter Ffocws – Dylunnir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithdai amrywiol i adeiladu rhwydwaith o ddysgu cymunedol, wrth gefnogi anghenion unigol cleientiaid, ar gael drwy ystod o gyngor, cefnogaeth a digwyddiadau busnes.

Syniadau Mawr Cymru – Yn cefnogi y genhedlaeth nesaf o fentrwyr ifanc yng Nghymru, trwy gynnal digwyddiadau ysbrydoledig, cyngor un-i-un a phenwythnos preswyl dros dri diwrnod.

Busnes Cymdeithasol Cymru – Yn darparu gwasanaethau ymgynghoriaethau arbenigol i fentrau cymdeithasol, i helpu nhw cyrraedd eu nod.

Gofod a Rennir – yw’r gofod gorau i weithio ar eich syniadau a chydweithio gyda phobl o’r un anian a rhoi’r cyfle i’ch busnes cychwynnol fynd â’ch cynnyrch i’r swyddfa mewn lleoedd siopa pop yp blaenllaw.

Looking for something in particular?

I’m looking for
Help with funding
I’m looking for
Cyngor busnes

The latest news

Dyfodol Ffocws yn cynnig cymorth wedi’i deilwra ar ôl Covid i helpu busnesau lleol fynd yn ôl ar y trywydd iawn

Mae ymchwil wedi’i gynnal gan Business in Focus wedi dangos bod nifer fawr o fusnesau yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd ar ôl Covid.  Gan weithio ar ran Llywodraeth y DU, mae Business in Focus wedi cynllunio Dyfodol Ffocws er mwyn helpu perchnogion busnes i adfer ar ôl heriau’r pandemig Covid-19 a sicrhau gwytnwch wrth […]

Dyfodol Ffocws yn cyflwyno cymorth Menter a Sgiliau yn Sir Benfro 

Mae Busnes mewn Ffocws yn falch o fod yn cynnig Dyfodol Ffocws ar ran Cyngor Sir Penfro. Gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, mae Dyfodol Ffocws yn rhan o’r dyfarniad Cronfa Adfywio Cymunedol llwyddiannus a enillodd y sir i gefnogi pobl leol i ‘ailgodi’n gryfach’. Mae Dyfodol Ffocws yn ffurfio rhan o’r gronfa bartneriaeth […]

Noddwr Business in Focus – Womenspire 2022

Mae Business in Focus yn fenter gymdeithasol sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau newydd a sefydledig. Rydym wedi bod yn helpu pobl i ddechrau a thyfu eu busnesau eu hunain ers dros dri degawd, drwy ddarparu cyngor busnes arbenigol wedi’i deilwra, mynediad at gyllid a hyfforddiant sgiliau. Rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid trwy ddarparu llety hyblyg […]