17 swyddfa â gwasanaethau ar draws yr eiddo ar wahân tri llawr yn y lleoliad canol tref amlwg hwn. Mae’r safle hunan-gynwysedig hwn yn cynnwys lleoedd parcio ar y safle ac mae ganddo gysylltiadau ffordd ardderchog â’r A470 a’r A465 gyda chludiant cyhoeddus o fewn pellter cerdded. Bydd gan y swyddfeydd hyn o ansawdd uchel sydd wedi’u hailwampio fynediad 24/7 ac maent ar gael ar delerau hyblyg gydag amrywiaeth o feintiau a gosodiadau ar gael. Caiff ymdeimlad mawr o gymuned ei feithrin ymysg entrepreneuriaid, mewn lleoliad gerllaw pobl fusnes o’r un anian. Yn yr un modd â phob safle, cewch fanteisio ar delerau hyblyg a syml, gyda landlord ariannol sefydlog y mae cefnogi busnesau yng Nghymru yn egwyddor greiddiol.