Pennaeth Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru i gymryd yr awenau yn Business in Focus

27/07/21

Philip Jones, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru yn cael ei benodi’n Brif Weithredwr Business in Focus, sefydliad cymorth busnes arbenigol a landlordiaid masnachol.

Yn dilyn ymddeoliad y Prif Weithredwr presennol, Katy Chamberlain, bydd Phil yn ymgymryd â’r dasg o arwain y fenter gymdeithasol arloesol, sy’n brif ddarparwr gwasanaethau cymorth busnes  yng Nghymru. Gan gynnig gwasanaethau cyllid a chyngor busnes arbenigol yn ogystal ag ystod eang o ofod swyddfa, gweithdai, a gofod diwydiannol hyblyg, bydd Phil yn ymgymryd ag arweinyddiaeth y tîm yn Business in Focus wrth iddo barhau i fod yn ymrwymedig i’w nod o gefnogi pobl i ddechrau a thyfu eu busnesau, beth bynnag fo’u man cychwyn.

Wrth siarad am ei benodiad dywedodd: “Rwyf wrth fy modd bod y Bwrdd Business in Focus wedi rhoi eu ffydd ynof i fod yn Brif Weithredwr newydd iddynt. Mae’r cyfle i adeiladu ar gyflawniadau eithriadol Katy Chamberlain yn gyffrous iawn yn wir. Wrth i ni ddod allan o flynyddoedd hynod o heriol, mae’n bryd goleuo’r ffaglau disgleiriaf a sicrhau bod y gorau o fenter Cymru wrth wraidd ein ffyniant a’n lles yn y dyfodol. Felly, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned Business in Focus ar y rhain ac ymdrechion eraill o fis Hydref.”

Mae Phil wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn arwain Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru a chyn hynny roedd yn Rheolwr Ardal Cymru ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol yn ystod cyfnod o drawsnewid yn yr elusen. Yn flaenorol, bu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog am dros 25 mlynedd fel swyddog yn Y Cymry Brenhinol.  Roedd ei rolau’n cynnwys goruchwylio hyfforddiant ymladd ac arwain, cyfathrebu yn y cyfryngau a chyfathrebu strategol, a chynllunio a darparu hyfforddiant cudd-wybodaeth yn y DU a thramor.

Ychwanegodd: “Hoffwn hefyd roi’r diolch cynhesaf, a diolch o galon i staff, gwirfoddolwyr a chefnogwyr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, sydd wedi rhoi’r 5 mlynedd fwyaf anhygoel i mi. Mae eu hymdrechion gwych wedi helpu miloedd lawer o bobl ifanc yng Nghymru i ganfod eu hyder, meithrin eu sgiliau bywyd, cael swydd, sefydlu busnes a chymaint mwy. Edrychaf ymlaen felly at ddyfnhau’r berthynas gref sydd eisoes yn bodoli rhwng Ymddiriedolaeth y Tywysog a Business in Focus yn y blynyddoedd i ddod. Mae llawer i’w wneud!”

Wrth groesawu Phil, dywedodd Geraint Evans, Cadeirydd Business in Focus: “Mae’n wych croesawu Phil i’r tîm; mae’n dod â chyfoeth o brofiad o’i gefndiroedd elusennol a milwrol a bydd y ddwy elfen yn gefnogaeth aruthrol i’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud gan ein timau. Diolchwn i Katy am ei chyfraniad gwych i’r busnes a dymunwn ymddeoliad hapus iawn iddi wrth i ni edrych ymlaen at ein pennod gyffrous nesaf.”