Partneriaeth cymorth busnes yn adlewyrchu cynnydd i’w groesawu mewn sgiliau digidol yn y trydydd sector

21/09/21

Erthygl wedi’i hail-bostio gyda chaniatâd Canolfan Cydweithredol Cymru

Dyma Paul Stepczak, ein Hymgynghorydd Cynigion a Masnachol, yn edrych yn ôl ar gydweithredu cynhyrchiol gyda Busnes mewn Ffocws, sydd wedi amlygu awydd sy’n plesio am feithrin sgiliau digidol yn y trydydd sector.

Dros y 3 blynedd diwethaf, rwy’ wedi cymryd rhan mewn cefnogi Hybiau Menter Ffocws Chaerfyrddin a y Drenewydd. Dan arweiniad Busnes mewn Ffocws, daeth pob Hwb â nifer o bartneriaid cyflwyno digwyddiadau, gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru, at ei gilydd, yn bennaf i hwyluso ymwneud cynnar â busnesau newydd – ochr yn ochr â gwasanaeth cyngor busnes Busnes mewn Ffocws a chymorth parhaus arall.

Mae’r profiad wedi bod yn un cadarnhaol a dadlennol, o safbwynt prosiect yn gyffredinol ac o safbwynt personol.

Bu’n ddiddorol profi amrywiol anghenion cyw entrepreneuriaid dros gyfnod y prosiect a phandemig Covid-19. Roedd galw clir am bynciau fel datblygu gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol, a marchnata a chynllunio busnes wedi’u hintegreiddio’n ddigidol – wedi’u cyflwyno o bell i fusnesau a wnaeth, fel y gwnaethom ni, newid i weithio ar-lein yn gyfan gwbl yn ystod y pandemig.

Golygai’r ‘normal newydd’ fod angen i entrepreneuriaid ddatblygu rhyw lefel o gymhwysedd technegol yn gyflym ac ymagwedd fwy strategol at eu ‘ffenestr siop’ ar y we er mwyn goroesi.

Yn y pen draw, fe wnaeth hyn gyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau newydd a thechnolegau presennol – newid diwylliannol sydd yma i aros, mae’n debyg. Yn unol â hynny, bu cynnydd enfawr yn y diddordeb mewn pynciau yr arferwyd eu hystyried yn bynciau mwy arbenigol.  Mae gweithdai diweddar ar themâu fel creu cynnwys, optimeiddio peiriannau chwilio a defnyddio Instagram ar gyfer busnes, wedi denu presenoldeb o hyd at 100 o unigolion.

At hynny, braf oedd clywed am rai o’r llwyddiannau entrepreneuraidd sy’n dangos sut mae technolegau newydd wedi’u cofleidio wrth ymgiprys â’r pandemig. Mae Rugby WarfareHilltop HoneyThe Goodwash Company, a Ffwrnes Pizza yn ddim ond rhai o’r busnesau Cymreig anhygoel sydd wedi ymddangos yn ein cynadleddau rhithwir dros y flwyddyn ddiwethaf – gan rannu profiadau o arallgyfeirio a gwydnwch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru.

Ar lefel bersonol, nifer y sefydliadau trydydd sector a fynychodd ddigwyddiadau Hwb oedd y peth mwyaf cyffrous i mi. A minnau wedi treulio mwyafrif fy ngyrfa’n gweithio mewn sefydliadau cymunedol neu gyda nhw, rwy’ wedi annog y grwpiau hyn yn weithgar i gymryd rhan yn ein digwyddiadau; mae’n bosibl iawn bod amgyffrediad mai digwyddiadau i’r sector busnesau preifat yn unig oedd y rhain.

Mae digwyddiadau o’r fath, a’r cymorth busnes dilynol, yr un mor werthfawr i’r trydydd sector ag i fusnesau newydd. Mae elfennau’n gyffredin i’r naill a’r llall – maent yn fathau o fentrau y mae angen iddynt hyrwyddo’u hunain yn effeithiol, yn ogystal â rheoli incwm a threuliau.

Gallai rhywun o’r trydydd sector gysylltu cymorth busnes traddodiadol â diwylliant masnach sydd i’w weld yn amlach mewn busnesau preifat. Dyma gamsyniad cyffredin a, chyda’r sector busnesau â phwrpas yn eu gyrru yn amlwg yn tyfu, mae angen cynyddol i bawb gofleidio’r cymorth digidol sydd ar gael.

Yn ôl y sôn, bu’n rhaid i 27% o sefydliadau trydydd sector – sy’n aml yn llenwi bylchau gwasanaethau cyhoeddus – ganslo’u gwasanaethau gan nad oedden nhw neu eu defnyddwyr yn meddu ar y sgiliau digidol cywir.*

Da gwybod bod mwy a mwy o sefydliadau trydydd sector yn dechrau gwella’u sgiliau digidol ac, felly, yn pontio’r bwlch rhwng y sector busnesau preifat a’r trydydd sector. Mewn un dosbarth meistr diweddar ar farchnata digidol, roedd y trydydd sector yn cynrychioli mwy na thraean o’r bobl a gofrestrodd ar ei gyfer.

Mewn byd sydd wedi gweld gwasanaethau hanfodol yn cael eu llethu, grwpiau cymunedol yn ei chael hi’n anodd, busnesau’n cau ac ymgysylltu digidol digynsail, mae’n hanfodol bod pob menter, ni waeth beth fo’i phwrpas neu’i strwythur, yn gallu cael at y cymorth sgiliau busnes digidol gorau oll er mwyn iddynt allu bod yn gynaliadwy. Y newyddion da yw bod y ddarpariaeth hon gennym yng Nghymru yn barod, gyda rhai esiamplau gwych yn ogystal. Ond mae angen i ni gydlynu, cydweithredu a chodi llais amdani!