Nomad Bar & Kitchen yn canfod cartref newydd yn Nhre-gŵyr
04/01/19
04/01/19
Mae perchennog bwyty o Dre-gŵyr a agorodd gaffi poblogaidd iawn y llynedd eisoes yn buddsoddi mewn busnes gwerthu bwyd arall yn yr un stryd, trwy leoli bwyty ffasiynol yn hen swyddfa Byron Davies AC.
Fe wnaeth Jack Frazer, 27 mlwydd oed, agor drysau Station 86 ym Medi 2017 – ei fenter gyntaf ym myd busnes – a daeth y caffi yn boblogaidd yn syth. Mae’n gogydd hyfforddedig a wnaeth fwrw ei brentisiaeth mewn bwytai yn yr Alpau, ac ymhen dim, roedd yn arallgyfeirio ei fusnes o gaffi clasurol a steilus yn ystod y dydd i le bwyta atyniadol gyda’r hwyr. Yr wythnos diwethaf, fe agorodd ddrysau Nomad Bar & Kitchen, nid nepell o’i fusnes gwreiddiol, yn Heol Sterry.
Dywed Jack: “Station 86 oedd fy musnes cyntaf, ac wrth gwrs, roeddwn i’n teimlo’n nerfus ynghylch sefydlu fy musnes fy hun, ond mae pethau wedi llwyddo’n dda iawn. Ers y cychwyn cyntaf, rwyf i wedi canolbwyntio ar fwyd rhagorol wedi’i gyrchu’n lleol, ac mae pobl wedi cefnogi ein hymdrechion. Fe wnes i arallgyfeirio a chynnig bwydlen gyda’r hwyr â chaniatáu i westeion ddod â’i diodydd eu hunain, ac rwyf i wedi llenwi’r archebion o nawr tan y Nadolig.
Rwyf i wedi canfod gan bobl gryn dipyn o ddiddordeb mewn coffi a bwyd, felly mae marchnad go iawn yn bodoli i gynnig cynnyrch rhagorol – mae pobl yn dymuno gwybod pa fath o ffa coffi rydych chi’n ei ddefnyddio, sut cafodd ei rostio, ac weithiau, byddant yn ffafrio coffi gan farista penodol, sy’n ei baratoi yn union fel maent yn ei hoffi. Mae safonau busnesau bwyd a diod wedi gwella cymaint yn yr ardal hon, ac mae hynny’n eich cadw ar flaenau eich traed – sy’n wych i’r cwsmer.
Fe wnaeth Jack gychwyn fel buddsoddwr unigol yn Station 86 ar ôl cael grant cychwyn busnes gwerth £25,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, â chefnogaeth Busnes mewn Ffocws, eu partner darparu benthyciadau lleol.
Dywedodd: “Roedd yn fuddsoddiad mawr. Roedd yn rhaid gwneud llawer o waith ailwampio i foderneiddio’r lle a gosod ffêr newydd i sicrhau fod y lle’n cyfleu’r ddelwedd ffres oedd yn ofynnol. Roedd hynny’n gam mentrus iawn, ond rwy’n falch fy mod i wedi gwneud hynny ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais i gan Busnes mewn Ffocws, a wnaeth hefyd gynnig cymorth rheolaidd gan fentor i mi. Rwy’n falch dros ben fod pethau wedi llwyddo cystal i mi, fy mod i bellach yn gallu buddsoddi mewn ail adeilad – y tro hwn ar y cyd â phartner busnes, ond â chymorth Busnes mewn Ffocws unwaith eto.
Ar lefel bersonol, mae’n dda gallu sicrhau fod rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau gymaint yn llwyddiannus, ond mae gallu ychwanegu rhywfaint o fywiogrwydd a buddsoddi yn un o ardaloedd Abertawe sy’n haeddu sylw hefyd yn rhoi boddhad. “Nid yw cychwyn busnes yn ddewis addas i bawb, ond rwy’n credu’n gryf bod cyfle da ar hyn o bryd i fuddsoddi yn y rhanbarth hwn. Mae Abertawe yn gwella trwy’r adeg, ac mae’r adfywiad yn y sector Bwyd a Diod yn helpu i sicrhau hyn. Mae awydd yma am nwyddau a gwasanaethau rhagorol, ac mae pobl yn disgwyl gallu canfod bwytai a chaffis da yn eu cymdogaethau, ar garreg eu drws. Ceir llawer o gefnogaeth yng Nghymru hefyd i bobl sydd â syniad busnes credadwy a’r awydd i lwyddo; pobl y mae arnynt angen ychydig o arweiniad ymarferol yn anad dim.
I gael cymorth ynghylch benthyciad dechrau busnes, cysylltwch â ni. Gallwch chi ymgeisio yma nawr.
www.businessinfocus.co.uk