Mae Busnes mewn Ffocws yn falch o ddarparu dwy Ganolfan Fenter newydd

23/11/18

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi lleoliadau pedair Canolfan Fenter ledled Cymru yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaid busnes ar draws Cymru. Mae Busnes mewn Ffocws yn falch dros ben o ennill y contract i ddarparu’r Canolfannau yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd.

Daeth y fenter gymdeithasol, sydd wedi bod yn helpu busnesau Cymru i ddechrau a thyfu ers dros dri degawd, ag amrywiaeth gyffrous o bartneriaid ynghyd ym mhob ardal gyfle i roi cymorth newydd ysbrydoledig i entrepreneuriaid ar draws rhanbarthau Canolbarth a De-orllewin Cymru. Caiff y canolfannau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Rhaglen Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac maent yn rhan o fuddsoddiad o £4miliwn ledled Cymru.

Caiff Canolfan Caerfyrddin ei lleoli yn adeilad newydd sbon Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a bydd yn cysylltu â Chanolfan Arloesedd y Bont ym Mhenfro, y Goleudy yn Llanelli a Choleg Sir Gâr. Gan weithio gyda Tramshed Tech, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin a Sir Benfro, bydd Busnes mewn Ffocws yn rhoi cyfle i unigolion a chwmnïau ddechrau a thyfu eu busnesau mewn cymuned ysgogol a chroesawgar.

Canolfan y Drenewydd ei lleoli yn adeilad hanesyddol Pryce Jones ynghanol y Drenewydd, lle bydd Busnes mewn Ffocws yn gweithio gyda Tramshed Tech, Cronfa Fancio Gymunedol Robert Owen, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion. Bydd y cysylltiadau hyn yn ei gwneud yn bosibl i gyfranogwyr mor bell i ffwrdd â Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth elwa o’r gymuned o gefnogaeth.

Jill Walters yw Rheolwr Contractau Busnes ym Musnes mewn Ffocws ac mae wedi rheoli’r contract gwasanaeth i Ganolfan bresennol Busnes Cymru yn Wrecsam ar gyfer y flwyddyn a aeth heibio, ynghyd â nifer o wasanaethau cymorth busnes a chontractau Busnes mewn Ffocws. Meddai: “Mae sicrhau’r cyfle tair blynedd hwn yn newyddion gwych i ni ac yn brawf pellach o’n  gallu i gyflawni canlyniadau rhagorol wrth helpu busnesau i dyfu a ffynnu. I ennill y contractau hyn, roedd angen ymdrech ar y cyd â phob un o’n partneriaid yng nghanolbarth Cymru a de- orllewin Cymru ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda nhw.”

Canolfan S4C Yr Egin yw canolfan greadigol a digidol newydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.  Gyda S4C yn brif denant angor mae’r Egin yn gartref i amrywiaeth o gwmnïau yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys cyhoeddi aml-gyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffeg; cyfieithu ac isdeitlo yn ogystal â rheolaeth ariannol ar gyfer y diwydiannau creadigol

Parhaodd Jill: “Mae’r themâu o ddod â phobl ynghyd o’r diwydiannau creadigol a digidol ac annog gweithio ar y cyd i greu syniadau a rhannu adnoddau yn gwneud Yr Egin yn safle perffaith ar gyfer ein ‘Canolfan Fenter’ newydd wrth i ni barhau i feithrin y to nesaf o entrepreneuriaid a busnesau.”

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch dros ben ein bod yn cael y cyfle i gynnal un o Ganolfannau Menter Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Bydd yn galluogi’r Brifysgol i weithio’n agos gyda phartneriaid allweddol gan roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymhelliant i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned i annog llwyddiant entrepreneuraidd. Bydd hefyd yn galluogi’r Brifysgol i barhau i ddatblygu ei chysylltiadau â’r cymunedau busnes lleol a rhanbarthol.”

Bydd Tramshed Tech yn gweithio gyda Busnes mewn Ffocws yn y ddwy Ganolfan gan ddarparu arbenigedd technegol a digidol. Bydd yn rhoi min technolegol byrlymus ar y Canolfannau newydd a sicrhau bod cymorth busnes yn arloesol ac yn ystwyth, gan roi cyngor cyfredol a pherthnasol i entrepreneuriaid a busnesau yn y gymuned.  Meddai Mark John, Prif Swyddog Gweithredu  Tramshed Tech, “Rydym yn edrych ymlaen at ymestyn ein gweithgarwch i orllewin Cymru a’r Canolbarth a sicrhau y caiff busnesau eu cefnogi yng nghefn gwlad Cymru ac yng nghanol y dinasoedd. Rydym ni awyddus i gysylltu â’r gymuned yn y Canolbarth a’r De-orllewin, gan selio ein partneriaeth â Busnes mewn Ffocws a thimau partneriaid y Ganolfan.”

Mark White yw Prif Swyddog Gweithredol Bancio Cymunedol Robert Owen ac mae wedi chwarae rôl allweddol wrth gefnogi’r ganolfan yn y Drenewydd. Meddai, “Rydym yn falch dros ben yng nghwmni Bancio Cymunedol Robert Owen o fod yn rhan o’r datblygiad gwych hwn ar adeg pan rydym yn ehangu ein gwaith benthyca i fusnesau ac yn ymgymryd â chontractau rheoli cronfa newydd. Bydd y Ganolfan Fenter yn hwb arbennig i economi Canolbarth Cymru ac rydym yn llawn cyffro am y posibilrwydd o weithio gyda’r holl bartneriaid yn y prosiect. ”

Tra bydd y canolfannau yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd yn rhoi ffocws canolog, bydd y rhaglen yn ymgysylltu ag unigolion a busnesau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Bydd lleoliadau lloeren yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ac yn galluogi pobl leol i ymuno â chymuned y Canolfannau. Hefyd, mae Busnes mewn Ffocws yn edrych ymlaen at ymgysylltu â chanolfannau’r Gogledd a’r De-ddwyrain i gyfrannu i ecosystemau gweladwy a chysylltiedig Cymru.