Llwyddiant yn dwyn ffrwyth i Andrew yn sgil y cyfnod clo

23/08/21

Daeth obsesiwn Andrew Traynor â bragu i fodolaeth ar ôl i’w ffrindiau yn y brifysgol brynu ei becyn bragu gartref cyntaf iddo. Gan ddatblygu ei sgiliau’n gyflym, archebodd Andrew mwy o offer, dechreuodd wrando ar bodlediadau yn gysylltiedig â chwrw a phrynodd bob llyfr y gallai ddod o hyd iddo i ddysgu cymaint ag y gallai.

Yn bendant mai dyma’r llwybr gyrfa iddo, sicrhaodd Andrew swydd mewn bragdy lleol lle dysgodd llawer mwy am gwrw a’r diwydiant wrth ddatblygu i rôl Rheolwr Cyfanwerthu. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn trefnu amserlenni bragu, rheoli archebion, adeiladu perthnasoedd â chyfanwerthwyr allweddol a mwynhau’r ochr hwyliog o reoli a mynychu gwyliau cwrw.

Mewn partneriaeth â’i ffrind o’r brifysgol Arran McHugh, buddsoddodd y pâr mewn pecyn bragu gartref o ansawdd uchel a dechreuasant fragu yn garej rhieni Arran, lle gwnaethant ddatblygu eu tri chwrw cyntaf a ganwyd Flowerhorn Brewery.

“Rwy’n mwynhau’r rhyddid creadigol sydd gennyf yn y gwaith a mwynhau gweld y gwaith yn arwain at dwf y busnes”

Sut y cefnogodd Benthyciadau Dechrau Busnes Andrew i adeiladu’r bragdy

Yn 2019, roedd Andrew ac Arran yn barod i lansio, ond gydag arian cyfyngedig roedd rhaid iddynt wneud hyn drwy gontract bragu, a ganiataodd iddynt gyflwyno’r cwrw i’r farchnad heb fuddsoddiad cyfalaf mawr. Ar ôl casglu adborth, newid ryseitiau a monitro data gwerthiannau, gwnaethant gysylltu â Busnes mewn Ffocws i helpu i sicrhau Benthyciad Dechrau Busnes £15,000 yr un.

Defnyddiwyd y benthyciad i brynu offer a symud i’w huned eu hunain gan eu galluogi i ddatblygu eu bar cwrw eu hunain. Law yn llaw â’r benthyciad, roedd gan Andrew ac Arran fynediad at gymorth arbenigol gan Ymgynghorydd Busnes, Steve Hammond i’w helpu i adeiladu ar syniad busnes eu breuddwydion, sy’n caniatáu iddynt weithio’n greadigol mewn diwydiant y maent yn angerddol amdano.

“Roedd Steve yn help mawr drwy gydol y broses gyfan. Roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn ein busnes a rhoddodd gyngor i ni ar sut orau i gyflwyno ein cynllun busnes”

Llwyddiant mewn cyfnod heriol

Er i Andrew ac Arran hawlio’r benthyciadau yn ystod pandemig, llwyddasant i ehangu i’w huned ddiwydiannol eu hunain ac adeiladu eu bragdy eu hunain. Golygodd hyn y gallent sicrhau bod y busnes yn addas ar gyfer y dyfodol drwy gymryd rheolaeth o’r broses gynhyrchu i gyd, addasu’r busnes i gynnig gwasanaeth danfon i’r cartref yn ystod y cyfnod clo, cyflwyno eu brand i fwy o bobl mewn marchnadoedd lleol ac agor bar cwrw i weini cwrw yn uniongyrchol i ddefnyddwyr. Mae llawer o bethau ar y gweill y maent ar bigau i’w lansio ar ôl manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cydweithio.

“Roedd gweithio â bragdai eraill yn cyfyngu ar ein rheolaeth o gynhyrchu, helpodd Benthyciad Dechrau Busnes ni i oresgyn y rhwystr hwnnw”

Gwnaethom ofyn: Beth sydd nesaf i Flowerhorn Brewery?

“Rydym yn gweithio ar ddod yn un o’r bragdai mwyaf adnabyddus yng Nghymru ac yn awyddus i helpu i dyfu sîn gwrw Caerdydd. Rydym yn cydweithio â’n cymdogion yn The Bridge Studios i greu un o’r lleoliadau gorau ar gyfer cwrw, gwin a bwyd stryd yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd rydym ar agor bob dydd Gwener a dydd Sadwrn gyda bwyd arbennig gan Mr Croquewich a Relish Co gyda Vin Van ar agor fel bar gwin arbenigol ac rydym yn gweini’r peintiau!

Mae galw wedi cynyddu’n aruthrol ers llacio’r cyfyngiadau, felly rydym eisoes yn dechrau edrych ar opsiynau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer y cam ehangu nesaf. Mewn ychydig wythnosau, bydd Flowerhorn Brewery yn derbyn llinell canio newydd, lansio siop ar-lein genedlaethol ac edrych ar gydweithio â rhai o’n hoff fragdai, cynhyrchwyr bwyd a diod, a cherddorion i greu amrediad eang o gwrw drwy gydol y flwyddyn.

Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol a gefnogir gan y llywodraeth sydd ar gael i unigolion dros 18 sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnes yn y DU. Prif nod y Benthyciadau Dechrau Busnes yw sicrhau bod busnesau newydd dichonadwy yn cael mynediad at y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Os ydych yn derbyn benthyciad, byddwn yn eich cefnogi chi drwy eich taith, ac yn darparu mentor busnes i chi am 12 mis o’r dyddiad rydych yn derbyn eich benthyciad. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes ar gael i fusnesau sydd ar fin lansio, neu’r rheiny sydd wedi bod yn masnachu am hyd at 24 mis.

Dysgwch fwy am Fenthyciadau Cychwyn Busnes a gwneud cais ar-lein