Katy Chamberlain yn sefyll i lawr fel Prif Weithredwr
26/05/21
26/05/21
Mae Katy Chamberlain yn ymddeol o’i rôl fel Prif Weithredwr Busnes mewn Ffocws, ar ôl naw mlynedd sydd wedi gweld y fenter gymdeithasol arloesol yn dyblu mewn maint, yn dod yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau cymorth busnes yng Nghymru.
Yn cynnig gwasanaethau cyngor busnes ac ariannol, yn ogystal ag ystod eang o ardaloedd diwydiannol, gweithdy a swyddfa hyblyg, mae Busnes mewn Ffocws yn parhau i fod wedi ymrwymo i’w nod o gefnogi pobl sy’n dechrau ac yn tyfu eu busnes, waeth beth yw eu man cychwyn.
“Mae wedi bod yn brofiad arbennig” meddai Katy “gweithio gyda thimau gwych i adeiladu ar ein cynnig sydd mawr ei angen drwy ddirwasgiadau, Brexit a phandemig byd-eang – ac rwy’n hynod falch o’r ffordd rydym wedi datblygu’r pecyn llawn i helpu busnesau i ddechrau arni, llwyddo a thyfu, yn rhoi cyfle i bawb droi eu dyheadau a’u breuddwydion yn fentrau llwyddiannus.”
Ymunodd Katy â Busnes mewn Ffocws yn 2012, ar ôl gyrfa lwyddiannus 20 mlynedd gyda KPMG, cwmni cyngor cyfrifeg rhyngwladol, a phedair blynedd fel Prif Weithredwr Chwarae Teg, yr elusen Gymreig sy’n hyrwyddo merched yn y gweithle. Yn ei barn hi, roedd ei phenodiad fel Prif Weithredwr yn gyfle i “uno popeth rwyf wedi’i ddysgu yn fy swyddi blaenorol, i ddarparu gwasanaeth hanfodol i bobl go iawn, yn helpu i adeiladu busnesau cynaliadwy a ffyniant cynhwysol yn ein cymunedau a’r economi.”
Mae uchafbwyntiau cyfnod Katy yn cynnwys ehangu portffolio eiddo Busnes mewn Ffocws, yn gyntaf i Ferthyr Tudful, yn cynyddu defnydd o sero i 100% o fewn wyth mis, yna’n cael portffolio eiddo £8 miliwn yn 2019, yn ehangu darpariaeth y cwmni o lety o safon, fforddiadwy, a chymorth perthnasol i denantiaid ledled Cymoedd Cymru yn ogystal â dinasoedd de Cymru. Roedd lansio tri Hwb Menter ledled Cymru yn llwyddiannus wedi amrywio’r ddarpariaeth ac wedi profi mor boblogaidd fel bod y busnes nawr yn paratoi i agor dau Hwb ychwanegol.
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae hi wedi arwain y consortiwm sy’n darparu Gwasanaeth Busnes Cymru blaenllaw Llywodraeth Cymru, yn cefnogi busnesau newydd a busnesau bach a chanolig ledled Cymru. Mae hwn, a gwasanaethau cymorth busnes eraill wedi’u darparu gan Busnes mewn Ffocws wedi cael eu cynnal yn ddi-dor yn ystod y pandemig, sy’n deyrnged i addasrwydd y timau sydd wedi symud i weithio gartref a’u hangerdd dros wasanaeth cleient gwych.
Talodd Geraint Evans, Cadeirydd Busnes mewn Ffocws, deyrnged i arweinyddiaeth a llwyddiannau Katy: “Hoffai’r Bwrdd a minnau ddiolch i Katy am ei chyfraniad gwych i Busnes mewn Ffocws. Mae hi wedi bod yn rhan hanfodol o lwyddiant y cwmni ac yn ein gadael mewn sefyllfa wych, gyda’n llygaid wedi’u selio’n gadarn ar y dyfodol i ehangu ein cymorth ar gyfer menter mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. Mae Katy yn gadael gyda dymuniadau gorau’r Bwrdd ar gyfer ymddeoliad hir a hapus”
Mae Busnes mewn Ffocws nawr yn dechrau chwilio am olynydd i Katy, yn croesawu ceisiadau gan arweinwyr busnes gweledigaethol gyda chyfuniad o nodweddion a gwerthoedd sydd eu hangen ar gyfer cyfle mor gyffrous a gwerth chweil.