Katy Chamberlain yn cyfrannu at bodlediad Cyngor yr Arweinwyr gyfochr ag Arglwydd Blunkett
18/08/20
18/08/20
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Arweinwyr Prydain a Gogledd Iwerddon yn y broses o siarad â ffigyrau arweiniol ledled y genedl mewn ymdrech i ddeall y nodwedd fyd-eang hon a’i arwyddocad ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon heddiw.
Gwahoddwyd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr i siarad ar bennod o’r podlediad, a oedd hefyd yn cynnwys cyfweliad gydag Arglwydd Blunkett.
‘Roedd yn fraint cael cyfrannu i’r drafodaeth ar arweinyddiaeth gydag Arglwydd Blunkett; mae’r cyfnod ansicr presennol yn her wirioneddol i bob arweinydd, a pho fwyaf y rhannwn ein profiadau a chyngor, po fwyaf y gallwn gefnogi ein gilydd’ meddai Katy.
Gofynnodd Matthew O’Neill, y cyflwynydd, nifer o gwestiynau i’r ddau westai am arweinyddiaeth a’r rôl y chwaraeodd yn eu gyrfaoedd hyd yma.
Dywedodd Matthew O’Neill, ‘Mae’n fraint cael cyflwyno sioe fel hyn, lle rydych yn cael siarad â gwir arweinwyr sydd wedi profi’r broses a’i chwblhau, un ai ar lwyfan cenedlaethol neu o fewn sector diwydiannol hanfodol.’
Dywedodd yr Arglwydd Blunkett, cadeirydd Cyngor Arweinwyr Prydain a Gogledd Iwerddon, ‘Credaf mai’r elfen fwyaf addysgiadol o bob pennod yw’r rhan gyntaf, lle mae Matthew O’Neill yn gallu eistedd gyda rhywun sy’n deall sut mae eu sector yn gweithio ac yn gwybod sut i reoli eu sefydliad. Rhywun sydd yno bob dydd yn gweithio’n galed ac yn ysbrydoli eraill. Dyna beth yw gwir ystyr arweinyddiaeth.’
Gallwch wrando ar y podlediad llawn yma >>