Entrepreneuriaid Newydd Yn Cael Cydnabyddiaeth Am Fusnesau Newydd Gwyrdd Arloesol

01/01/17

Mae dau o’r rhain newydd gael eu cynnwys yn y rhestr fer am Wobr fawreddog Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Shell Livewire, ac fe gafodd y ddau fusnes gymorth yn ystod y camau cyntaf pwysig hynny gan Busnes mewn Ffocws, yr arbenigwyr ar gynorthwyo mentrau yng Nghymru, trwy gyfrwng rhaglenni cymorth Syniadau Mawr Cymru a Busnes Cymru. Bydd enillydd y wobr yn cael £25,000 i ddatblygu ei fusnes. Dyma’r tro cyntaf i ni weld 2 fusnes o Gymru ymhlith y chwech terfynol sy’n rhan o restr fer y wobr, ac edrychwn ymlaen at weld y canlyniad pan gyhoeddir hynny ar 10 Mai.

Adam Dixon, dyn 25 mlwydd oed sydd â gradd mewn peirianneg fecanyddol o Brifysgol Caerdydd, yw cyd-sylfaenydd Phytophonics, cwmni sydd ar flaen y gad o ran cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn y DU a Chymru, â math newydd o fferm. Ar ôl datblygu technoleg tyfu arobryn newydd sy’n gallu cynhyrchu symiau sylweddol o ffrwythau a llysiau mewn modd hyblyg ac â chostau sefydlu a rhedeg isel, mae Phytophonics yn bwriadu lansio ei fferm gyntaf yn 2019. Yn ei weledigaeth, cynhyrchir ffrwythau a llysiau yn agosach at y mannau ble cânt eu bwyta, diolch i dechnoleg Phytophonics; defnyddir 90% yn llai o ddŵr ffres, 90 y cant yn llai o dir, ag ychydig iawn o blaleiddiaid i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch maethlon, o wylysiau i domatos.

Mae menter Adam eisoes wedi ennill £5000 trwy Wobr Dyfodol Clyfrach Shell Liverwire, ac mae’r dyn ifanc hwn sy’n creu argraff sylweddol eisoes wedi’i enwi yn Eiriolwr Ifanc y Ddaear (Ewrop) gan y Cenhedloedd Unedig.

Dywed Adam: “Rwy’n falch iawn fy mod i wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Entrepreneur Ifanc Shell Livewire, yn enwedig o gofio fod y maes yn llawn pobl ac arloesiadau gwych. Mae fy mhrosiect, Phytophonics, yn canolbwyntio ar ddiogelu’r blaned a gweithio i gyflawni nodau datblygiad amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig trwy sicrhau fod amaethyddiaeth yn fwy cynhyrchiol ac effeithiol ac yn gwneud llai o niwed i’r amgylchedd. Mae’n canolbwyntio hefyd ar fwydo pobl yn ystod yr 21ain ganrif anodd hon â’i phoblogaethau cynyddol a’r newid yn yr hinsawdd. Er fy mod i’n wastad wedi bod yn hyderus y gwnâi fy mhrosiect lwyddo a sicrhau effaith, roedd cael y math o gymorth oedd ar gael gan raglen Syniadau Mawr Cymru yn amhrisiadwy, yn ystod cyfnod cychwynnol Phytophonics, i’m helpu i osod y sylfeini priodol ar gyfer llwyddiant. Ac roedd y cyswllt a’r cyngor rheolaidd a gefais gan Mark Adams yn Syniadau Mawr Cymru yn ddefnyddiol dros ben i mi.”

Dau sy’n ymuno ag Adam ar restr fer Shell Livewire yw Karina Sudenyte a Maciek Kacpryzyk. Fel rhan o’u menter ym maes ffrwythau, Get Wonky, mae’r ddau wedi defnyddio eu doniau creadigol i ddatblygu cwmni diodydd cynaliadwy sy’n defnyddio ffrwythau afluniaidd na ellid eu gwerthu’n rhwydd fel arall. Cafodd Get Wonky gymorth yn ystod ei gamau cynnar gan wasanaeth Syniadau Mawr Cymru a Benthyciad Cychwyn Busnes gan Fusnes mewn Ffocws.

Dywed Karina, sy’n 23 mlwydd oed: “Mae Maciek a minnau yn falch iawn fod ein brand, Get Wonky, wedi cael cystal croeso. Bydd o leiaf un rhan o dair o gynnyrch a dyfir yn fyd eang yn cael ei wastraffu oherwydd ei faint neu ei siâp, ac mae cynhyrchu gormodol yn arwain at ragor o wastraffu bwyd, er bod hanner y bwyd hwnnw a wastreffir yn fwytadwy.

“Nod Get Wonky yw datrys gwastraff bwyd, lleihau cyfanswm gwastraff plastig, a helpu perllannau na all werth cynnyrch di-siâp trwy wasgu’r cynnyrch hwnnw a chreu suddion. Ein nod yw creu’r brand suddion mwyaf cynaliadwy yn Ewrop.”

Caiff suddion Get Wonky ei becynnu’n ofalus i sicrhau nad yw’n defnyddio poteli plastig, ac mae’r ddau eisoes wedi llofnodi cytundeb cyflenwi â dros 100 o ffreuturau mewn prifysgolion a chwmnïau, ac â’r busnes cadwyn byrgyrs ffasiynol o Gymru, The Grazing Shed.

Dywed Karina: “Mae rhai pobl wedi gofyn i ni pam wnaethom ni ddewis aros yng Nghymru ar ôl gorffen ei hastudiaethau i sefydlu busnes. Mae’r rheswm yn syml; mae ar fusnesau newydd angen cymorth, ac rydym yn credu fod yr ecosystem entrepreneuriaeth yma yng Nghymru wedi ennill ei phlwyf ers tro. Nid wyf yn credu y gallem ni fod wedi cyflawni twf o’r fath pe baem ni wedi lansio y tu allan i Gymru, ac rydym yn falch o fod wedi sefydlu’r busnes yma.”

Dywedodd Matthew Roberts o dîm Benthyciadau Cychwyn Busnes, Busnes mewn Ffocws: “Rwy’n falch o weld y cleientiaid ysbrydolgar hyn sydd gan Busnes mewn Ffocws yn cael cydnabyddiaeth am eu dyfeisgarwch a’u gwaith caled. Mae’n fraint cael gweld cymaint o feddyliau ifanc disglair yn cynnig atebion dyfeisgar i rai o faterion pwysicaf ein cyfnod, ac mae hi wedi bod yn wych cael cydweithio’n agos â Maciek a Karina, a rhoi’r cymorth y mae ei angen arnynt i gymryd eu camau cyntaf tuag at lwyddiant eu busnes.

Mae hirhoedledd yn bwysig i bob busnes newydd, ac un o’r pethau yr ydym yn rhoi llawer o sylw iddo yw cynnig cymorth yn y tymor hir. Byddwn yn darparu cymorth am flwyddyn ar ôl rhoi’r Benthyciad Cychwyn Busnes, i helpu busnesau i oroesi unrhyw broblemau cychwynnol. Buaswn yn annog unrhyw entrepreneur i ddewis y math hwn o gymorth tymor hirach, i sicrhau fod gan eu busnes hoff y cyfle gorau i oroesi a llwyddo.”