Entrepreneuriaid Caerfyrddin yn elwa ar gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau newydd yng Nghanolfan S4C yr Egin.
05/04/19
05/04/19
Mae gan entrepreneuriaid yng Nghaerfyrddin canolfan ddeori busnes newydd sbon ar gael iddynt, gyda lansiad Hwb Menter, sy’n cael ei redeg gan Business In Focus yng Nghanolfan S4C yr Egin – canolfan greadigol a digidol newydd sydd wedi’i lleoli ar Gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn y dref.
Lee Waters AC, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, dorrodd y rhuban ar yr hwb newydd, sydd wedi’i leoli yn yr Egin, gan ddweud y bydd y safle’n dod â chyfleoedd cyffrous i fusnesau newydd yn y rhanbarth.
Mae’r Hwb Menter yn un o ddau a fydd yn cael eu rheoli gan Business In Focus am y tair blynedd nesaf, gyda’r llall yn y Drenewydd, Powys. Mae Business In Focus yn fenter gymdeithasol gyda phortffolio o eiddo ledled De Cymru lle mae’n cartrefu busnesau bach, yn ogystal â chynnig gwasanaethau ymgynghori wedi’u teilwra i fusnesau bach a chanolig.
Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, leoliad cyfres o Hybiau Menter ledled Cymru fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i gefnogi entrepreneuriaid busnes, sy’n cael ei hategu gan raglen fuddsoddi gwerth £4 miliwn.
Dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Business In Focus : “Rydym yn falch iawn o weld Hwb Menter blaenllaw Caerfyrddin yn cael ei agor ac edrychwn ymlaen at gefnogi llawer iawn o ddynion a menywod busnes uchelgeisiol i sefydlu cwmnïau llwyddiannus o’r canolfannau hyn. Rydym yn gwybod bod yna ffyniant gwirioneddol o entrepreneuriaeth yn y rhanbarth hwn, ac mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad yn helpu i gefnogi busnesau newydd i ffynnu.
“Mae sefydlu busnes yn creu cyffro a chyfleoedd gwych, ond mae hefyd yn dod â’i heriau ei hun, ac, yn ein profiad ni, mae cael mentor profiadol wrth law i gynnig cefnogaeth, mewnwelediadau ac arweiniad yn amhrisiadwy.
“Mae gan bawb ddiddordeb mawr mewn gweld Cymru’n ffynnu, a gan fod 99 y cant o fusnesau yng Nghymru yn fusnesau bach a chanolig, mae’n amlwg bod cwmnïau bach llwyddiannus yn ffurfio sylfaen ein heconomi. Felly mae’r buddsoddiad hwn mewn Hybiau Menter newydd i’w groesawu’n fawr.”
Gyda S4C yn brif denant, mae’r Egin hefyd yn gartref i amrywiaeth o gwmnïau yn y diwydiannau creadigol gan gynnwys cwmnïau cyhoeddi aml-gyfrwng a thechnoleg ddigidol; addysg ddigidol; cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth; ôl-gynhyrchu; dylunio graffig; cyfieithu ac is-deitlo yn ogystal â rheolaeth ariannol ar gyfer y diwydiannau creadigol.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes DL, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewis Sant (UWTSD): “Mae’n bleser gan UWTSD gynnal un o Hybiau Menter Llywodraeth Cymru yn yr Egin ac mae’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau i gyflwyno’r cyfleuster busnes newydd hwn ar gyfer gorllewin Cymru,”
“Gyda phwyslais cryf ar feithrin doniau newydd ac ymrwymiad i gefnogi cwmnïau newydd a chwmnïau sy’n tyfu yn y sectorau creadigol a digidol, mae’r Brifysgol a’r Egin mewn sefyllfa dda iawn i ddiwallu anghenion y gymuned fusnes sy’n tyfu yn y rhanbarth,” mae’r Athro Hughes yn parhau. “Bydd datblygiad hwb Caerfyrddin yn galluogi i’r Egin weithio’n agos gyda Business In Focus yn ogystal â phartneriaid allweddol eraill i roi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymhelliant i fyfyrwyr yn ogystal ag aelodau o’r gymuned i annog llwyddiant entrepreneuraidd.”
Dan arweiniad Business in Focus, bydd rhaglen yr Hwb yn ymdrech tîm cryf wedi’i gefnogi gan ei bartneriaid Tramshed Tech a Chanolfan Cydweithredol Cymru a’i gefnogi gan Gynghorau Sir Caerfyrddin a Sir Benfro. Tra bydd yr hybiau yng Nghaerfyrddin a’r Drenewydd yn darparu canolbwynt, bydd rhaglen yr hwb yn ymgysylltu ag unigolion a busnesau yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Bydd lleoliadau lloeren yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ac yn galluogi i bobl leol ymuno â chymuned yr Hybiau. Ariennir yr Hybiau Menter gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Lawrlwythwch datganiad i’r wasg lansio’r ganolfan fenter yma