Dyfodol Ffocws yn cynnig cymorth wedi’i deilwra ar ôl Covid i helpu busnesau lleol fynd yn ôl ar y trywydd iawn

29/06/22

Mae ymchwil wedi’i gynnal gan Business in Focus wedi dangos bod nifer fawr o fusnesau yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd ar ôl Covid. 

Gan weithio ar ran Llywodraeth y DU, mae Business in Focus wedi cynllunio Dyfodol Ffocws er mwyn helpu perchnogion busnes i adfer ar ôl heriau’r pandemig Covid-19 a sicrhau gwytnwch wrth feddwl am y dyfodol. 

Wedi’i gyflwyno ar draws 13 awdurdod lleol yng Nghymru, mae Dyfodol Ffocws yn cynnig rhaglen gymorth, cyngor am ddim, i 50 busnes, gyda’r nod benodol o ddatrys problemau ôl-covid.  

Dywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Business in Focus: 

“Bydd y cymorth hwn o fudd i fusnesau sydd wir wedi ei chael hi’n anodd adfer ar ôl y pandemig. Mae effaith y cymorth hwn diogelu busnesau ac yn diogelu swyddi hanfodol mewn cymunedau lleol.” 

Mae’r rhaglen Dyfodol Ffocws yn cynnig cyngor wedi’i deilwra diagnostig i fusnesau, a chymorth un-i-un gan Ymgynghorydd Busnes dibynadwy sy’n helpu cleientiaid i asesu eu sefyllfa bresennol a dylunio mesurau er mwyn eu helpu i’w rhoi yn ôl ar ben ffordd. Mae’r Ymgynghorwyr Busnes hefyd yn gweithio’n agos â chleientiaid er mwyn helpu i’w cyfeirio at gymorth ariannol addas. 

Cafodd Dyfodol Ffocws ei lansio fel rhan o Gronfa Adnewyddu Gymunedol Llywodraeth y DU er mwyn helpu i gefnogi pobl leol i ddatblygu sgiliau a magu hyder er mwyn datblygu eu mentrau entrepreneuraidd ar ôl y pandemig. Mae’r tîm yn cefnogi busnesau newydd ac annibynnol, ac unigolion hunangyflogedig fel masnachwyr unigol a chyfarwyddwr cwmnïau cyfyngedig yng Nghymru, i dyfu a datblygu eu busnesau ymhellach. 

Os ydych chi’n fusnes newydd yn mentro i fyd ôl-covid, yn fusnes annibynnol sydd wedi wynebu heriau drwy gydol y pandemig, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau newydd a gynigir gan Dyfodol Ffocws, gallwch gysylltu â’r tîm heddiw drwy anfon e-bost at DyfodolFfocws@businessinfocus.co.uk neu ffoniwch 01656 868502. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Business in Focus am ragor o wybodaeth.