Dyfodol Ffocws yn cyflwyno cymorth Menter a Sgiliau yn Sir Benfro
30/05/22
30/05/22
Mae Busnes mewn Ffocws yn falch o fod yn cynnig Dyfodol Ffocws ar ran Cyngor Sir Penfro. Gan weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol, mae Dyfodol Ffocws yn rhan o’r dyfarniad Cronfa Adfywio Cymunedol llwyddiannus a enillodd y sir i gefnogi pobl leol i ‘ailgodi’n gryfach’.
Mae Dyfodol Ffocws yn ffurfio rhan o’r gronfa bartneriaeth gwerth £1,347,672 a gafodd ei dyfarnu i gefnogi gyda datblygu menter a sgiliau yn Sir Benfro. Bydd y peilot yn rhoi cymorth i bobl leol ddatblygu sgiliau a fydd yn arwain at weithgarwch economaidd, ac yn ysbrydoli a chyffroi arloesedd busnes drwy gael gwared ar rwystrau entrepreneuriaeth. Bydd Dyfodol Ffocws yn rhoi cymorth ac arweiniad i bobl sy’n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain, helpu pobl i geisio cymorth ariannol a darparu hyfforddiant ac arweiniad un i un.
Gan gefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ar draws y DU, nod peilot y Gronfa Adfywio Cymunedol yw creu cyfleoedd i roi dulliau newydd a syniadau arloesol sy’n ymateb i heriau lleol ac anghenion lleol dan brawf. Nod y gronfa yw cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau, datblygu sgiliau entrepreneuraidd, a magu’r hyder i ystyried hunangyflogaeth.
Dyma’r math o gymorth y bydd Busnes mewn Ffocws yn ei gynnig drwy Dyfodol Ffocws:
Dywedodd Phil Jones, Prif Weithredwr Busnes mewn Ffocws: “Rydym wrth ein bodd o gael cyfle i weithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Lleol Sir Benfro i gynnig y cymorth mawr ei angen hwn i bobl ifanc. Bob blwyddyn, mae Busnes mewn Ffocws yn helpu miloedd o bobl ledled Cymru i fod yn hunangyflogedig neu i ddechrau eu busnes eu hunain, felly rydym mewn sefyllfa dda i gyflawni’n gryf ar y prosiect hwn.”
Mae gennym Gynghorwyr Busnes profiadol a fydd yn gweithio ar sail un-i-un gydag unrhyw un sydd â diddordeb mewn derbyn ein cymorth, magu ei hyder, datblygu syniadau a chynlluniau, a chyflwyno rhwydweithiau cymorth cymheiriaid ar gyfer cymorth tymor hwy”
Gwyn Evans, Rheolwr Cyllid Allanol Cyngor Sir Penfro.
“Rydym yn hynod falch ein bod wedi cael llwyddiant ysgubol gyda’n ceisiadau i ffrwd gyllid newydd Llywodraeth y DU,” meddai.
“O ganlyniad, bydd cannoedd o bobl yn cael hyfforddiant, cymwysterau a chymorth penodol er mwyn sicrhau gwaith, a bydd busnesau lleol yn derbyn cefnogaeth a chymorth.”
Roedd gofyn i ymgeiswyr y Gronfa Adfywio Cymunedol ddatblygu prosiectau a oedd yn mynd i’r afael â’r themâu canlynol:
Cafodd Sir Benfro lwyddiant wrth sicrhau cyllid ar gyfer pob cynnig a gyflwynwyd.
Os ydych chi’n adnabod unrhyw unigolyn neu fusnes a fyddai’n elwa o gymorth sydd ar gael drwy Dyfodol Ffocws, neu os hoffech wybod mwy eich hun a chael sgwrs ag un o’n Tîm Dyfodol Ffocws,
anfonwch e-bost i DyfodolFfocws@businessinfocus.co.uk , ffoniwch 01656 868502 neu ewch i’r wefan www.businessinfocus.co.uk