Cynllun Kickstart – Sicrhewch gyllid 100% er mwyn cynnig lleoliad gwaith

16/10/20

A allech chi gynnig lleoliad gwaith i berson ifanc yn eich busnes?

Bydd y lleoliad yn cael ei ariannu’n llawn gan y Llywodraeth

Cyhoeddodd y Canghellor gynllun i gael gwaith i bobl ifanc sydd wedi colli swyddi a chyfleoedd oherwydd y pandemig coronafeirws.

Rydym yn rhannu’r Cynllun Kickstart, sy’n darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac mewn perygl o ddiweithdra tymor hir.

Am bob lleoliad gwaith bydd y cyllid yn talu am:

Trwy gyfrwng y cynllun, bydd gennych fynediad at gronfa fawr o bobl ifanc â photensial, sy’n barod am gyfle.

Ydych chi’n barod i gefnogi person ifanc yn ôl i’r gwaith?

Dyma beth i’w wneud:

  1. Gwiriwch a ydych yn gymwys am y grant yma
  2. Gallwch weld y cysylltiadau Cyflogwr Kickstart ar gyfer eich ardal yma
  3. Gwnewch gais am y grant Cynllun Kickstart yma

Os ydych yn gwneud cais am 30 lleoliad gwaith neu fwy, gallwch wneud cais uniongyrchol. Os ydych yn gwneud cais am lai na 30 lleoliad gwaith, gallwch ddod o hyd i rywun i wneud cais ar eich rhan. Gallant gyflwyno cais ar eich rhan, gan ddefnyddio cyflogwyr eraill i greu 30 neu fwy o leoliadau swyddi mewn un cais.

Mae Busnes mewn Ffocws yn cyfeirio busnesau at gynllun Kickstart Collective Technology Connected, a fydd yn cynnal gweminar i roi mwy o wybodaeth i chi am y cynllun a sut y gallwch elwa o gymorth Technology Connected