Busnes mewn Ffocws yn Prynu Adeilad Swyddfeydd Newydd ym Merthur Tudful

05/09/18

Mae Busnes mewn Ffocws, y sefydliad sy’n arbenigo mewn cynorthwyo busnesau, wedi prynu adeilad swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, gan ehangu eu rhwydwaith o eiddo ledled De Cymru.

Bydd Crownford House yn un arall o ganolfannau busnes y fenter gymdeithasol, a bydd yn cynnig cartref i fusnesau bychan a chanolig. Lleolir y swyddfeydd yng nghanol y gymuned, yng nghanol y dref, yn agos at yr holl amwynderau lleol.

Bydd pob un o denantiaid yr eiddo newydd yn cael cyfle i gael amrywiaeth helaeth o gynigion unigryw a gwasanaeth sydd ar gael i denantiaid Busnes mewn Ffocws, yn cynnwys blaendal sy’n cyfateb i un mis o rent yn unig, cyfnod rhybudd o fis a dim ffioedd gweinyddu. Caiff yr holl wasanaethau gofynnol eu darparu, gan olygu y gall y tenant ddefnyddio ei amser i ganolbwyntio ar ei fusnes heb orfod poeni am gasgliadau sbwriel, diogelwch neu faterion yn ymwneud â’r system wresogi, a bydd ein tîm profiadol ar gael bob amser i gynnig cymorth a chyngor pan fydd angen hynny.

Dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Busnes mewn Ffocws: “Mae ehangu ein rhwydwaith o eiddo a chyrraedd rhannau newydd o Dde Cymru yn brofiad cyffrous iawn i ni. Mae cael troedle ym Merthyr Tudful yn rhoi cyfle i ni i gynorthwyo busnesau lleol a chyfrannu at ddatblygiad y dref uchelgeisiol hon.

Mae’r buddion unigryw rydym ni’n eu cynnig i denantiaid yn golygu y gall hyd yn oed y busnesau lleiaf ganfod lle i gychwyn, a byddwn ni ar gael i’w cynorthwyo yn ystod bob cam o’u taith. Rydym ni’n gwybod fod dod â busnesau ynghyd mewn lle sydd â chanolbwynt cymunedol yn annog cymorth gan gymheiriaid a chydweithio, ac yn helpu busnesau i ddatblygu. Edrychwn ymlaen at weld mentrau yn ffynnu yn y cyfleuster newydd hwn.”

I ddathlu agoriad y safle newydd, bydd Busnes mewn Ffocws yn cynnal digwyddiad lansio ym Merthyr Tudful ar 11 Hydref, a bydd yn cynnig cyfle i ddarpar denantiaid a phobl eraill fydd yn bresennol i gael cipolwg ar Crownford House.

Ychwanegodd Katy: “Bydd ein digwyddiad i ddathlu symud i’r adeilad newydd hwn yn rhoi cyfle i ni groesawu busnesau lleol, rhanddeiliaid ac aelodau o’r gymuned gyfagos a chael cyfle i ddangos y lle newydd hwn iddynt. Bydd aelod o’n tîm hefyd yn bresennol i drafod y math o gymorth y gallwn ni ei gynnig i fusnesau.”

Mae Busnes mewn Ffocws yn fenter gymdeithasol sy’n helpu busnesau bach i dyfu ers dros 30 mlynedd.  Mae gan y cwmni swyddfeydd mewn sawl rhan o Dde Cymru, ac mae’n rhoi cyfle i fusnesau bychan a chanolig gael mynediad at gyngor ynghylch cyllid, cyflogi staff ac adnoddau dynol, adeiladau busnes ac amrywiaeth o wasanaethau eraill.

Os ydych chi’n chwilio am swyddfa ym Merthyr neu os hoffech chi ddefnyddio unrhyw un o’n gwasanaethau, cysylltwch â ni ar 01656 868545.