Busnes mewn Ffocws yn ehangu gyda darpariaeth newydd, gyffrous ar gyfer gorllewin Cymru
29/09/21
29/09/21
Heddiw, mae sefydliad cymorth busnes a landlordiad masnachol mwyaf blaenllaw Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau eiddo i ehangu eu darpariaeth gyfredol. Mae’r datblygiad pwysig hwn yn golygu y bydd Busnes mewn Ffocws bellach yn gallu cynnig lle i fusnesau newydd brawf-fasnachu a rhannu gweithle yng ngorllewin Cymru.
Dywedodd y Prif Weithredwr, Katy Chamberlain, “wrth inni ddod allan o gyfyngiadau’r cyfnod clo, rydyn ni wedi bod yn gwrando ar adborth yn dilyn y pandemig a chymryd sylw o’r ffordd newydd mae pobl eisiau gweithio. Rydyn ni wedi ymateb drwy fuddsoddi yn ‘Gofod a Rennir’ fel datrysiad i weithio hybrid – man gweithio lle gall rhai sy’n gweithio o bell deimlo’n llai ar wahân ac, yn bwysicach, y cyfle i fusnesau newydd fynd â’u cynhyrchion i’r farchnad.”
Drwy lansio Gofod a Rennir, mae Busnes mewn Ffocws yn ategu eu cymorth i fusnesau newydd gyda rhagor o gyfleoedd i entrepreneuriaid. Yn ogystal â chael y lle i weithio ar eu syniadau a chydweithio â phobl sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, bydd ganddynt y cyfle i brawf-fasnachu eu cynhyrchion mewn lle rhagorol yng nghanol tref brysur.
Mae Gofod a Rennir, wedi’i leoli yng Nghanolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin, Caerfyrddin eisoes wedi croesawu ei denant cyntaf, sef Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin, a fydd yn ei ddefnyddio fel lleoliad cysylltiol ychwanegol i’w lleoliad presennol yng Nghanolfan S4C Yr Egin. Bydd hyn yn galluogi tiîm yr Hwb i gyrraedd rhagor o bobl, gan alluogi rhagor o bobl i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Dywedodd Angharad Harding, Rheolwr Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a Chynghorydd Busnes, ynghylch y denantiaeth, “yn dilyn y pandemig, yn ogystal â dod â budd economaidd i lawer o fusnesau sydd wedi newid y ffordd maen nhw’n gweithio, bydd Gofod a Rennir yn galluogi ein tîm i gysylltu â’r gymuned leol ar lefel ehangach. Bydd hefyd yn ein galluogi i lansio ein siopau dros dro, gan y bydd Gofod a Rennir yn cynnig cyfleoedd prawf-fasnachu mewn rhan benodol o’r adeilad. Bydd y cyfle hwn ar gael i’n cleientiaid a’r gymuned leol, i arddangos eu cynhyrchion.”
Mae’r eiddo eang, cynllun agored yn croesawu ymwelwyr o heddiw ymlaen ac yn cynnig ystod o becynnu rhannu gweithle i gyd-fynd ag amrywiaeth o anghenion. Hefyd, os ydych yn awyddus i dreialu unrhyw gynhyrchion rydych yn eu datblygu yn y farchnad, gallwch archebu lle am ddim gyda’r tîm heddiw.