Busnes mewn Ffocws yn cynyddu Portffolio Eiddo o 67%

01/11/19

Mewn cyfnod pan fo ansicrwydd ynglŷn â’n dyfodol yn effeithio ar hyder busnesau, mae Busnes mewn Ffocws wedi ymrwymo i fuddsoddiad eiddo ar raddfa fawr yng Nghymoedd De Cymru a Wrecsam.

Mae strategaeth gaffael gadarn wedi cyflawni canlyniadau wrth i’r fenter gymdeithasol gynyddu maint ei phortffolio o 67%, gan ei gynyddu o 227k i bron i 380k troedfedd sgwâr, a chynyddu ei darpariaeth o safleoedd swyddfa fforddiadwy i nifer gynyddol o fusnesau bychain. Ers dechrau fwy na 30 mlynedd yn ôl, mae’r cwmni wedi bod ar flaen cyngor a chymorth busnes yn ne Cymru.

Wrth sôn am y buddsoddiad dywedodd y Prif Weithredwr, Katy Chamberlain ‘Dyma’r union gyfnod i gamu ymlaen a dangos ein cefnogaeth at fusnesau bychain yng Nghymru. Yn Busnes mewn Ffocws, rydym wedi hyrwyddo ffyniant yng Nghymru ers cyfnod hir. Gwyddwn mai busnesau bychain yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn fwy tebygol o deimlo effaith unrhyw ddatrysiad Brexit.

Mae cryfder parhaus y farchnad busnesau bychain yn dweud cyfrolau ynglŷn â gwytnwch perchnogion busnesau bychain yng Nghymru. Heddiw, mae busnesau yn wynebu heriau a chyfleoedd unigryw a bydd ein buddsoddiad yn ein galluogi ni i ddarparu cymorth parhaus i’r sector busnes bach a chanolig ar gyfnod allweddol.’

Mae’r chwe safle sydd wedi’u caffael yn Abercynon, Aberdâr, Bedwas, Dowlais, Pentrebach a Wrecsam, ac yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddarparu swyddi gwell yn agosach at adref – elfen greiddiol o nodau economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae data sydd wedi’i gasglu gan Dasglu’r Cymoedd yn dangos bod bron i 1,000 o bobl a busnesau bychain yn ardal y Tasglu wedi derbyn cymorth trwy gyngor a chymorth busnes, gyda mwy na 100 o fentrau newydd wedi’u creu yn yr ardal yn ystod 2017-18. Mae hyn yn pwysleisio angen parhaus am safleoedd busnesau bychain dibynadwy, fforddiadwy yn yr ardal, a gyda phump o’r chwe safle newydd wedi’u lleoli yn y Cymoedd, mae Busnes mewn Ffocws yn gallu bodloni’r angen hwnnw.

Gyda chyfraddau llenwi yn eu safleoedd presennol yn uwch na 98%, mae Busnes mewn Ffocws yn hyderus y bydd eu safonau uchel yn bodloni’r holl gleientiaid. Yn aml, mae perchnogion busnesau bychain yn wynebu llawer o heriau gydag adnoddau prin, felly mae angen iddynt gael hyder llwyr yn eu sefydliad, boed yn swyddfa neu uned ddiwydiannol.

Y nodwedd brin sy’n gwneud y Tîm Eiddo hwn mor arbennig yw ei wybodaeth drylwyr o anghenion newidiol tenantiaid a’r profiad sydd ganddynt o wrando ar denantiaid a chleientiaid dros 34 mlynedd o gefnogi busnes.  Mae Busnes mewn Ffocws yn cynnig telerau hyblyg i’r holl denantiaid fel gallant addasu eu gofynion safle wrth i’w busnes newid a thyfu. Mae’n nodedig er y gallai tenantiaid adael ar ôl mis pe dymunent, nid oes neb byth yn gwneud hynny.  Pam symud pan mae gennych gymuned groesawus ac arbenigedd cryf o’ch cwmpas chi?

Dywedodd Faith Olding, tenant hirdymor o Apollo Teaching Services; ‘Rwyf wedi bod yn denant i Busnes mewn Ffocws ers 12 mlynedd a gallaf bob tro ddibynnu ar y Tîm Eiddo i sicrhau bod fy safle yn ddelfrydol i’m staff a’m busnes. Mae popeth mewn trefn dda bob tro – mae’r tîm yn gofalu am agwedd ddyrys y safle, gan fy ngadael i’n rhydd i redeg fy musnes.’

Mae Busnes mewn Ffocws yn parhau i fod y landlord dewisol i fusnesau bychain sy’n chwilio am safleoedd fforddiadwy ar delerau syml. Gan wasanaethu i fusnesau bychain, mae’r cwmni yn cynnig safleoedd swyddfa a gweithdai hyd at unedau diwydiannol mawrion ac amrywiol.

Mae’r busnes yn falch o fuddsoddi yng Nghymru a diogelu darpariaeth y gwasanaethau cefnogi busnes a llety fforddiadwy i’w gymuned entrepreneuraidd.

 

Datganiad i’r wasg