Busnes mewn Ffocws yn cael ei Gydnabod fel Buddsoddwr mewn Pobl
22/08/18
22/08/18
Mae Busnes mewn Ffocws, y fenter gymdeithasol sy’n helpu busnesau bychan i gychwyn ar eu taith a thyfu ers bron iawn tair degawd, wedi cael achrediad Aur gan Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n dangos eu hymroddiad i berfformiad rhagorol trwy reoli pobl yn dda.
Mae gan y cwmni swyddfeydd ac adeiladau ledled De Cymru, ac mae’n cynnig cymorth â materion cynllunio, cyflogaeth ac adnoddau dynol, cymorth i gael cyllid, seminarau hyfforddiant a digwyddiadau – yr holl elfennau hanfodol a alla wneud gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant ar gyfer busnes.
Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP) yw’r safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl, ac mae’n diffinio beth sy’n ofynnol i arwain, cynorthwyo a rheoli pobl yn effeithiol i gyflawni canlyniadau cynaliadwy
Mae fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl yn sail i’r safon, ac mae hynny’n adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf mewn gweithleoedd, sgiliau hanfodol a’r strwythurau effeithiol sy’n ofynnol i ragori mewn unrhyw ddiwydiant.
Mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn caniatáu i sefydliadau feincnodi eu hunain mewn cymhariaeth â goreuon byd busnes yn rhyngwladol. Mae achrediad aur yn golygu eu bod yn cynnal yr un safonau â chwmnïau byd-eang mawr sydd hefyd wedi cael y wobr, yn cynnwys Sony a Fujitsu.
Ar adeg yr achredu, mae Busnes mewn Ffocws ymhlith y 7% o’r sefydliadau BmP yn y Deyrnas Unedig, ac un o’r deg sefydliad gorau o fewn y sector ymgynghori a chyfrifyddu.
Gan wneud sylwadau am y dyfarniad, dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Busnes mewn Ffocws: “Fel cwmni sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau eraill i dyfu a bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i ni yn y lle cyntaf sicrhau fod prosesau priodol yn eu lle yn ein busnes ni a chydnabod pwysigrwydd ein tîm ein hunain.
“Mae gennym ni arweinyddion cryf yn ein uwch dîm rheoli ac mae hyn yn dylanwadu ar y cwmni cyfan ar bob lefel, ac amlygir hynny gan y cyfathrebu gwell rhwng ein personél sydd wedi cyfrannu at yr achrediad. Mae’r wobr hon yn glod i’r holl bobl wych sydd gennym ni yn Busnes mewn Ffocws a’r gwaith rhagorol a wneir ganddynt, felly mae hyn yn gyfle gwych i’w llongyfarch a diolch i bawb ohonynt.”
Dywedodd Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn pobl: “Fe hoffem ni longyfarch Busnes mewn Ffocws. Mae achrediad gan Buddsoddwyr mewn Pobl yn arwydd o gyflogwr gwych, lle rhagorol i weithio ac ymroddiad amlwg i lwyddiant. Dylai Busnes mewn Ffocws fod yn hynod o falch o’u llwyddiant.”