Aelodau Hwb Caerfyrddin yn dysgu sut i Hau Hadau Llwyddiant

07/11/19

Bydd entrepreneuriaid yn Sir Gaerfyrddin yn cael y cyfle i ddysgu sut i Hau Hadau Llwyddiant gan enillydd cyfres Apprentice y BBC, Alana Spencer.

Mae’r gynhadledd gyda’r nos hon wedi’i dylunio i gefnogi’r gymuned leol a darparu cyfleoedd i archwilio entrepreneuriaeth ac arloesedd yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad gwerth chweil, rhad ac am ddim hwn gan Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin a phrosiect BUCANIER yng Nghanolfan S4C Yr Egin ar 27 Tachwedd 2019.

Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i glywed popeth am daith fusnes ysbrydoledig Alana Spencer.  Mae Alana wedi cyflawni llwyddiant arbennig yn y sector bwyd a diod yng Nghymru, ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg ei busnes llewrychus Ridiculously Rich by Alana. Cychwynnodd Alana ei gyrfa fel siocledwraig hunan addysgedig yn 16 oed yng nghegin wledig fechan ei theulu yng ngorllewin Cymru, erbyn hyn mae’r busnes cacennau moethus wedi’u gwneud â llaw yn ffynnu gyda dros 50 o lysgenhadon. Yn dilyn ei chyfnod ar y rhaglen deledu, The Apprentice gyda’r Arglwydd Sugar, bydd Alana yn rhannu ei phrofiadau o redeg a datblygu ei syniadau busnes ac agor becws newydd yn Aberystwyth.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Alana Spencer i’r Egin, i rannu ei phrofiadau, cynnig cyngor doeth ar gyfer busnesau ac ysbrydoli ein cynulleidfa. Os ydych yn rhedeg busnes, menter fach, gyda syniad am fusnes neu eisiau rhwydweithio â’r gymuned leol, dewch i fwynhau a chael eich ysbrydoli.

Mae’r Hwb yn edrych ymlaen at ddenu siaradwyr proffil uchel i’r Egin drwy gydol 2020. Mae croeso i bawb ddod i fwynhau’r noson, rhwydweithio a blasu brownies blasus Alana.” Gwenllian Thomas, Cydlynydd Ymgysylltu Menter yn yr Hwb Menter.

Gofod creadigol, gweithredol yw’r Hwb Menter yng Nghaerfyrddin, lle gall entrepreneuriaid weithio ochr yn ochr â’i gilydd a chael cefnogaeth i roi’r syniad busnes ar waith. Mae’r tîm bob amser wrth law i gynnig cyngor busnes un-i-un ac ymarferol i fusnesau sy’n tyfu ledled gorllewin Cymru.
Mae lleoedd yn brin ac mae tocynnau yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad am ddim hwn https://hwbsmenterffocws.cymru/