Mae Darganfod yr Ymgeisydd Cywir yn Haws Nag Erioed i Chi
06/06/18
06/06/18
Gwelwch gryfder cwmni – ym mha beth bynnag sector- yn safon ei weithwyr. Felly, dylai recriwtio ymgeiswyr o safon fod yn flaenoriaeth i berchenogion busnes.
Mae pwysau ar gwmnïau i chwilio am yr ymgeisydd cywir – nid wedi seilio ar gymwysterau yn unig ond, a bydden nhw’n cyd-fynd â’r tîm? Bydden nhw’n aros gyda’r cwmni unwaith maen nhw wedi cwblhau eu hyfforddiant? Beth bydd cost yr ymgyrch recriwtio – o ran arian ac amser? Yn ffodus, mae nifer o systemau ac offer ar gael i’r rhai sy’n recriwtio er mwyn eu helpu i ddarganfod ymgeiswyr posibl ac i ddewis y rhai addas i’r swydd.
Mae gan gyflogwyr cyfoes, a’u hadrannau Adnoddau Dynol, sawl dull wahanol i luchio eu rhwyd recriwtio, gyda’r argoelion presennol yn symud oddi asiantaethau recriwtio traddodiadol tuag at y maes, ceisiadau sgrîn a phroses, a CV.
Dywed Andrea Wallbank, Rheolwraig AD Business in Focus’:
“Defnydd sawl cwmni dulliau digidol profedig er mwyn cael y neges allan eu bod yn chwilio am bobl, ac maent wastad yn dwyn ffrwyth. Yn amlwg, mae defnyddio LinkedIn, Facebook a Trydar yn ffordd arbennig o dda i gyrraedd demograffig mawr.
Maent hefyd yn ffordd ddefnyddiol o ddangos beth yw ethos y busnes drwy postio negeseuon bach – pwy rydych chi fel tîm, sut bydda’r profiad o weithio i chi. Mae Cyfryngau Cymdeithasol yn ffordd o ddangos personoliaeth cwmni a’i frand ac mae hwn yn llawer mwy tebygol o ddenu pobl gyda diddordebau, egwyddorion a uchelgeisiau sy’n debyg i chi.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Business in Focus wedi recriwtio mwy na 30 swydd newydd a daeth nifer o aelodau newydd ein tîm atom drwy cyfryngau cymdeithasol, trwy ymchwiliad syml. Yna, oeddent yn gallu ymchwilio i gymeriad y busnes drwy edrych yn fanwl ar yr hyn oedd ar ein lwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â’n wefan.”
Yn ôl statudau diweddaraf, defnydd 40% o aelodau LinkedIn yr ap ffôn symudol er mwyn chwilio am swyddi, ac yn 2017, adroddwyd fod tua tri miliwn o hysbysebion swydd ar y llwyfan.
Yn y cyfamser, cyflwynodd Facebook adran swyddi ei hunan, gan gydnabod bod y llwyfan yma yn boblogaidd ar gyfer y pethau hyn. Ac wrth gwrs, defnydd nifer o gyflogwyr llwyfannau megis LinkedIn i helpu targedi nodweddion penodol ac i edrych ar hanes ymgeiswyr potensial unwaith maent yn derbyn cais swydd ganddynt.
Ychwanega Andrea: “Mae defnyddio dulliau fel ymchwiliad Boolean, fel rydym wedi cyflwyno yma yn Business in Focus, yn gallu helpu cyflogwyr ddefnyddio cronfa ddata fawr er mwyn darganfod y nodwydd holl bwysig yna mewn tas wair.”
Gall ymchwiliadau Boolean helpu chi dylanwadu cronfa ddata fawr, megis recriwtio CRM neu LinkedIn i ddarganfod ymgeiswyr yn sydyn, drwy deipio rhestr o eiriau er mwyn datgladdu ymgeiswyr o ansawdd. Yn debyg i hyn, rydym wedi ymchwilio ffyrdd eraill o recriwtio fel ffeiriau swyddi sy’n cynnig fforwm digidol rhyngweithiol. Mae hwn yn galluogi cyflogwyr i rhyngweithio’n effeithiol gyda phobl sy’n chwilio am swydd ac hefyd arbed cost ac amser i’r ddwy ochr.
Daw Andrea i gasgliad gyda “Tua blwyddyn yn ôl, mewn amser pan oedd llai o bobl yn chwilio am waith, aethon ni ati i ddiweddaru ein dulliau. Mae safon y tîm sydd gennym nawr, a’r ffordd ymgartrefon nhw yn nheulu Business in Focus, yn dyst i’r gwelliannau mae’r datrysiadau digidol wedi gwneud i’r broses recriwtio – heb sôn am yr effaith a’r faich gwaith y tîm AD!”
Fel menter gymdeithasol sy’n tyfu, rydym o hyd yn chwilio am dalentau newydd i ymuno â’r tîm. I weld y swyddi gwag ewch at www.businessinfocus.co.uk/about-business-in-focus/join-the-team
Arbenigwyr cefnogi busnes wedi seilio yng Nghymru yw Business in Focus sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogaeth holl bwysig, gyda swyddfeydd ledled De Cymru a’r Cymoedd.