Noddwr Business in Focus – Womenspire 2022
30/05/22
30/05/22
Mae Business in Focus yn fenter gymdeithasol sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau newydd a sefydledig. Rydym wedi bod yn helpu pobl i ddechrau a thyfu eu busnesau eu hunain ers dros dri degawd, drwy ddarparu cyngor busnes arbenigol wedi’i deilwra, mynediad at gyllid a hyfforddiant sgiliau. Rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid trwy ddarparu llety hyblyg a mannau masnachu, cyllid, cyngor arbenigol, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio. Darperir ein gwasanaethau ar ran cyrff cyhoeddus a phreifat, ac mae gennym hanes rhagorol o weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Pam rydym yn cefnogi’r gwobrau
Nid ydym yn derbyn y dylai pobl yng Nghymru gael eu rhoi dan anfantais o ran datblygu eu sgiliau, eu profiad a’u gallu i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn seiliedig ar eu rhywedd ac felly’n cefnogi ymdrechion i sicrhau newid yn y maes hwn. Fel sefydliad achrededig Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, rydym yn buddsoddi yn ein pobl, a dyna pam rydym yn cefnogi Gwobrau Womenspire. Mae Chwarae Teg yn rhannu’r un egwyddorion â Business in Focus o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle – mae’r ddau ohonom wedi ymrwymo i hyrwyddo newid a chreu amgylcheddau gwaith tecach i bobl Cymru.
Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig i ni
Mae Business in Focus yn gyflogwr cyfle cyfartal, nid yn unig rydym wedi cyflawni safon C2E (Ymrwymiad i Gydraddoldeb) ond rydym hefyd wedi ennill Aur am ein hymrwymiad i’r safon yn ymarferol drwy’r cwmni cyfan. Rydym yn gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl gydweithwyr wedi’u hyfforddi i ddarparu gwasanaeth cynhwysol yn broffesiynol i bob cleient.
Pam rydym yn cefnogi’r gwaith Chwarae Teg
Mae Chwarae Teg yn rhannu’r un egwyddorion â Business in Focus o ran ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, felly roedd hi ond yn naturiol y byddem yn cefnogi Gwobrau Womenspire. Mae anghydraddoldeb i fenywod yn dal i fodoli yng Nghymru ac mae Chwarae Teg yn ysbrydoli sefydliadau ledled y genedl i wneud gwahaniaeth drwy gefnogi sefydliadau i wneud newidiadau drwy hyfforddiant, arweiniad a chyngor arbenigol, gan helpu i sicrhau newid gwirioneddol yn y gweithle.
“Rydym yn buddsoddi yn ein pobl; credwn yn gryf y dylai pawb gael cyfle cyfartal. Mae Chwarae Teg yn ysbrydoli sefydliadau ledled y wlad i eiriol dros gydraddoldeb rhywedd drwy ddarparu cyngor a chymorth amhrisiadwy i’r rhai sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth. Rydym yn falch o fod yn cefnogi elusen mor bwysig a gwobrau Womenspire.”
Phil Jones
Prif Weithredwr, Business in Focus