Mae Llwyddiant ar y Fwydlen i Ŵr a Gwraig sy’n Berchnogion Busnes Prydau Parod

31/01/19

Mae gŵr a gwraig yn blasu llwyddiant â’u busnes prydau parod Thai, ar ôl i Busnes Mewn Ffocws eu cynorthwyo i sicrhau benthyciad dechrau busnes gwerth £25,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes.

Fe wnaeth Chris ac April Napier sefydlu Bangkok Express, ar ôl i’r ciniawau ecsotig bydd April yn eu coginio i’w gwr gyffroi ei gydweithwyr yn y swyddfa. Yna, fe wnaeth y ddau benderfynu newid eu swyddi ym meysydd gwerthu a gweinyddu am wres y gegin, ac mae eu blwyddyn gyntaf wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Dywed Chris: “Mae ein blwyddyn gyntaf yn rhedeg y busnes wedi bod yn well i ni na’r hyn fyddem ni wedi’i ddychmygu, ac rydym ni’n falch iawn ein bod ni wedi bachu ar y cyfle i sefydlu busnes gyda’n gilydd.

“Roeddem ni wedi bod yn ystyried hynny ers tro, ac roedd April a minnau erbyn hynny yn teimlo ein bod ni wedi cyflawni popeth roeddem ni’n ei chwennych yn ein gyrfaoedd, o ran gweithio i bobl eraill, ac roeddem ni’n gwybod fod yn rhaid i ni sefydlu’r busnes bryd hynny neu ni fyddem ni fyth yn gwneud hynny.

“Roeddwn i’n wastad yn hyderu y byddai’n llwyddo i ni, ac roedd hynny braidd yn naïf efallai. Mae bwyd April yn wych ac mae ganddi hi ei dull ei hun o goginio seigiau Thai go iawn, fel y bydd pobl yn eu coginio adref yng Ngwlad Thai. Byddwn i’n mynd â fy nghinio i’r gwaith a byddai pob un o fy nghydweithwyr yn gofyn am gael ei flasu. Felly, fe wnaeth April gychwyn gwerthu fy nghiniawau parod i fy nghydweithwyr. Roeddem ni’n gwybod fod yn rhaid i ni wneud hynny fel busnes.”

Daeth Chris i weld Busnes Mewn Ffocws â chynnig a chynllun busnes, ac yn ôl Chris, fe wnaeth ei ymgynghorydd busnes, Steve Hammond, sicrhau fod yr holl broses o ariannu’r busnes yn hawdd iawn.

“Nid oeddem ni’n gallu ariannu’r busnes ein hunain, ac wrth wneud dipyn o waith ymchwil ar-lein, fe wnaethom ni ganfod manylion Busnes Mewn Ffocws. Fe wnes i ddangos cynllun busnes i Steve, ac fe wnaeth ei fireinio a’i symleiddio. Ymhen ychydig fisoedd – neu llai na hynny efallai – cafodd y benthyciad ei gadarnhau, ac fe wnaethom ni sefydlu ein busnes. Wrth gwrs, bydd blwyddyn gyntaf unrhyw fusnes yn peri straen i’r perchnogion a gall cydweithio â’ch partner beri straen hefyd. Ond mae April a minnau yn ddisgybledig iawn o safbwynt gadael straen y gegin yn y gegin a pheidio gadael iddynt amharu ar ein bywyd gartref, Roedd yr holl broses o sicrhau benthyciad dechrau busnes yn rhyfeddol o ddibryder, diolch i Steve, ac i Hywel Bassett, un o’r Ymgynghorwyr Busnes yn Busnes Mewn Ffocws, sydd wedi’n cynorthwyo yn rheolaidd. Dylem ni fod wedi gwneud hyn flynyddoedd yn ôl.”