Ffocws ar bobl ac eiddo

18/05/21

Gan fod yr economi BBaChau mor bwysig i ddyfodol Cymru, buom yn siarad â Gareth Jones, Rheolwr Eiddo Masnachol a Chyfleusterau, am y rhesymau pam yr ymunodd â’r tîm eithriadol hwn; a’i brofiadau hyd yma.

“Fe wnes i ddarganfod Business in Focus am y tro cyntaf bron i 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn Rheolwr Busnes i un o’r banciau masnachol. Fel rhan o’m rôl yn helpu busnesau newydd a busnesau bach i sefydlu a thyfu, roeddwn i’n arfer gwneud cyflwyniadau i gleientiaid Business in Focus yn un o’n heiddo ym mhen deheuol Stryd Bute, yn yr hyn rydyn ni’n ei alw yn awr yn Adeiladau Frazer. Bob tro roddwn i’n mynd yno, fe’m trawyd gan ba mor gyfeillgar a phroffesiynol oedd y tîm – a’r gwahaniaeth gwirioneddol a wnaethant i unigolion sy’n ymgymryd â’r her o redeg eu menter eu hunain. Roeddwn i’n mwynhau’r ffaith eu bod yn cynnig y gorau o’r ddau fyd i’w tîm: y cyfle i ddarparu cymorth busnes arbenigol a hygyrch, heb orfod ‘gwerthu’ unrhyw gynnyrch neu wasanaethau ychwanegol i denantiaid. Felly pan hysbysebwyd rôl fel Ymgynghorydd Busnes ar Stryd Bute, neidiais ar y cyfle – ac rwyf wedi bod yn mwynhau’r daith fyth ers hynny.”

Rheoli ystod eang o le swyddfeydd, gweithdai a diwydiannol hyblyg

“Mae Business in Focus wedi fy annog i ddatblygu gyda’r sefydliad ym mhob ffordd. Pan symudais ymlaen i reoli eu gofod busnes, fe wnaethant fy nghefnogi i gwblhau MSc dwy flynedd mewn Arolygu drwy ddysgu o bell – a heddiw mae’r rôl honno wedi esblygu i reoli ystod eang o swyddfeydd, gweithdai a gofod diwydiannol hyblyg, ar gyfer bron i 500 o denantiaid ar draws 23 o safleoedd. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath – un diwrnod gallwn fod yn rhan o gaffael eiddo gwerth miliynau o bunnoedd a gallai’r nesaf fy ngweld yn rhoi trefn ar doiled wedi blocio. Rwy’n caru’r ffaith y gallaf fod yn ‘ymarferol’ ond fy mod hefyd yn ymwneud â chyfeiriad strategol y busnes – a’r llinyn cyffredin drwy bopeth yw bod y tîm yn sicrhau bod ein tenantiaid yn cael y gwasanaeth a’r amgylchedd gwaith sydd ei angen arnynt i lwyddo.”

Gwasanaethu a chefnogi 500 o fusnesau unigryw ar draws 23 safle

“Dydyn ni wir ddim yn meddwl am ein sylfaen o gwsmeriaid fel 500 o denantiaid – rydyn ni’n eu hystyried yn 500 o fusnesau unigryw, unigol, gyda phopeth ar draws y Gwasanaethau Ariannol, y Sector Gofal, y Sector Creadigol, Arlwyo a llawer mwy, yn mynd i’r afael â’u diwrnod gwaith yn y ffordd sy’n gweddu orau iddyn nhw. Ein rôl ni yw rhoi’r gofod busnes a’r cymorth maen nhw eu hangen iddyn nhw; gyda’r refeniw rhent yn cael ei roi yn ôl i ehangu ein gwasanaeth ymhellach fyth. Mae’n fodel aruthrol – sy’n cynnig unrhyw beth o 120 i 1000 troedfedd sgwâr a mwy o ofod masnachol o safon, gyda’r tenant yn mwynhau hyblygrwydd un mis o rybudd. Dyna pam rydym yn mwynhau defnydd bron yn llawn – ac un o’r rhesymau pam ein bod mewn sefyllfa berffaith ar gyfer dyfodol sy’n seiliedig ar weithio hybrid, os mai dyna’r normal newydd.”

O ddim i 100% o feddiannaeth mewn dim ond wyth mis

“Mae cyrraedd y cam hwn wedi bod yn llwybr 10 mlynedd i mi a ddechreuodd yn ôl yn 2011, pan gawsom gyfle i wneud cais ‘amlen gaeedig’ am le masnachol yn Abertawe – ein menter gyntaf y tu allan i Dde Ddwyrain Cymru. Cymerodd rywfaint o ddewrder i wneud hynny, yn enwedig gan fod yr adeilad 70% yn wag – ond aethom ag ef i feddiannaeth lawn yn gyflym, a rhoddodd hyn yr hyder i ni fuddsoddi ymhellach a gwneud ein caffaeliad nesaf yng nghanol Merthyr Tudful, lle bu i ni fynd â defnydd o ddim i 100% o fewn wyth mis. Erbyn i ni gaffael portffolio eiddo yng nghanol Cymoedd De Cymru gwerth £8 miliwn yn 2019, roedd gennym fodel profedig ac, yn ddigon sicr, mae hynny wedi bod yn llwyddiant ysgubol, er gwaethaf y pandemig.”

Rhoi ein tenantiaid yn flaenllaw ac wrth wraidd popeth a wnawn

“Mae rhoi ein tenantiaid yn flaenllaw ac yn ganolog wedi bod yn greiddiol i’n holl lwyddiant. Pan drawodd COVID-19 roeddem yn bryderus iawn am yr effaith y byddai’n ei chael arnom ni a’n tenantiaid; ac rwy’n falch o’r ffordd y gwnaethom weithredu’n gyflym, gan ohirio rhenti i’n tenantiaid am gyfnod o dri mis ac addasu i gael tîm o 120 o bobl wedi’u lleoli yn y swyddfa ar ddydd Llun ac yna’n gweithio gartref yn ecsgliwsif erbyn y dydd Mawrth. Drwy gydol hyn oll, rydym wedi cynnal y cymorth sydd ei angen ar ein tenantiaid. Rwyf mor falch o fod yn rhan o’r tîm sydd wedi perfformio felly; ac mae’n rhoi ymdeimlad enfawr o foddhad i mi bellach i gyrraedd maes parcio yn un o’n safleoedd a gweld llawer o denantiaid yn ôl yn eu gweithle, ar ôl masnachu drwy’r pandemig a rhai hyd yn oed wedi ffynnu drwy’r pandemig. Mae hefyd yn rhoi teimlad cynnes i mi weld llawer o’n tenantiaid yn tyfu eu heiddo gyda ni. Er gwaethaf yr hyblygrwydd rydyn ni’n ei gynnig, hyd tenantiaeth cyfartalog gyda ni yw chwe blynedd; ac mae’n arwydd gwirioneddol o lwyddiant i’n gweld yn meithrin cymaint o fentrau ac yn eu cefnogi i fynd ymlaen i ‘bethau mwy’.

Rydym yn hyderus ac yn gadarnhaol am ein dyfodol, gan archwilio gwahanol fecanweithiau ariannu, cadw ein traed ar y ddaear a’n llygaid ar y gorwel. Beth bynnag sy’n digwydd nesaf, byddwn yma i gynnig y cymorth busnes a’r gofod busnes gorau; ac rwy’n gyffrous iawn am fod yn rhan o hynny.”

Menter gymdeithasol yw Business in Focus gyda chenhadaeth i fod yn brif ddarparwr cymorth busnes yng Nghymru, gan gynnig safleoedd busnes hyblyg, cyllid fforddiadwy ac arweiniad arbenigol – y pecyn cyflawn i helpu busnesau i ddechrau, ffynnu a thyfu, gan roi cyfle i bawb droi eu dyheadau a’u breuddwydion yn fenter lwyddiannus.