Llwyddiant busnes i Mon Aquatics

25/03/21

Siop anifeiliaid anwes dyfrol deuluol wedi’i lleoli yn nhref Caergybi ar Ynys Môn yw Môn Aquatics.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Fe benderfynais ddechrau fy musnes nawr gan fy mod i’n gallu gweld bod angen amdano yng Nghaergybi. Rwyf wedi symud i’r ardal yn ddiweddar a gallaf weld bod yno gyfle i fy musnes ffynnu a thyfu.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Diffyg cyllid oedd y brif her, gan fod gen i’r profiad a’r wybodaeth i lwyddo yn y maes hwn. Roedd llunio cynllun busnes yn her hefyd ac roeddwn i’n falch o gael cymorth gan elusen leol, Môn CF, a fy nghynghorydd Benthyciadau Dechrau Busnes, Steve.

Sut mae eich busnes wedi datblygu?

Roeddwn i wedi cyflwyno cais am fenthyciad i gwmni arall yn flaenorol, ac fe gafodd hwnnw ei wrthod. Roedd hyn yn destun pryder, gan ei fod wedi gwneud imi gwestiynu a oedd fy nghynllun yn un cadarn. Fe wnes i fwrw ymlaen ac rwy’n ddiolchgar fod fy nghynllun wedi cael ei dderbyn gan Benthyciadau Dechrau Busnes, gan na fyddwn i wedi gallu symud ymlaen ar y daith hon fel arall. Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio agor mwy o siopau yng ngogledd Cymru ac adeiladu ar fy musnes.

Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol a gefnogir gan y llywodraeth sydd ar gael i unigolion dros 18 sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnes yn y DU. Prif nod y Benthyciadau Dechrau Busnes yw sicrhau bod busnesau newydd dichonadwy yn cael mynediad at y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Os ydych yn derbyn benthyciad, byddwn yn eich cefnogi chi drwy eich taith, ac yn darparu mentor busnes i chi am 12 mis o’r dyddiad rydych yn derbyn eich benthyciad. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes ar gael i fusnesau sydd ar fin lansio, neu’r rheiny sydd wedi bod yn masnachu am hyd at 24 mis.

Dysgwch fwy am Fenthyciadau Cychwyn Busnes a gwneud cais ar-lein