Dysgu’n ystod y cyfnod clo wedi’i wneud yn hardd gyda Hannah

27/04/21

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn rheoli sbas clybiau iechyd, berchen ar ei salonau ei hun a rheoli un o gyrchfannau sba gorau’r DU, collodd Hannah Johnson ei gwaith wrth i’r pandemig daro’r diwydiant yn galed.

Defnyddiodd Hannah ei sgiliau, ei gwybodaeth a’i phrofiad addysgu i sefydlu cyfleuster hyfforddi ar-lein yn y sector harddwch.

Amcan Hannah oedd cynnig hyfforddiant o safon uchel gyda chynnwys gwerthfawr, am bris fforddiadwy. Byddai’r hyfforddiant ar gael yn rhwydd fel y gellid ei gwblhau o unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Ochr yn ochr â darparu’r hyfforddiant roedd Hannah am adeiladu cymuned gefnogol o fewn y diwydiant a chwalu’r stigma bod hyfforddiant ar-lein yn cael ei reoleiddio’n wael a heb ei achredu.

Sut y cefnogodd Benthyciadau Dechrau Busnes Hannah gyda’i syniad busnes

Ym mis Medi 2020, cefnogodd Busnes Mewn Ffocws Hannah i sicrhau benthyciad o £5,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes i’w galluogi i adeiladu gwefan broffesiynol a chyllid tuag at gyfalaf gweithio cychwynnol. Yn ogystal â chymorth gyda’r cais am gyllid, mae Hannah yn derbyn mentora a chefnogaeth barhaus gan yr Ymgynghorydd Busnes, Steve Hammond, i sicrhau ei bod yn magu hyder i wneud penderfyniadau busnes a fydd yn helpu ei busnes i ffynnu.

“Roedd Steve yn wych ac roedd ei amser ymateb ar gyfer unrhyw ymholiadau yn anhygoel.

Roedd ei gyngor yn berthnasol ac yn drylwyr, roedd yn gwrando ar fy syniadau ac yn fy helpu i adeiladu arnynt”

Dechrau’n llwyddiannus yn ystod y cyfnod clo

Er gwaethaf pandemig y coronafeirws, lansiodd Hannah ei gwefan a manteisiodd ar gyfleoedd gwerthu’r Nadolig, gan ddefnyddio sêls Dydd Llun Seibr, 12 diwrnod o Nadolig a Gŵyl San Steffan fel cyfleoedd i ddenu llawer iawn o draffig i’r wefan, gan arwain at werthiannau da ar gyfer y pecynnau hyfforddi.

Mae dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer y cyrsiau ar-lein achrededig yn derbyn pedwar cwrs bach am ddim sy’n canolbwyntio ar iechyd a diogelwch cyffredinol yn y diwydiant yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf a chyrsiau newydd drwy gylchlythyr wythnosol Beauty Spa Training.

“Roedd gen i lawer i’w werthuso cyn cymryd risg ond roedd Steve mor gefnogol ac yn deall fy mhryderon.

Gwnaeth i mi deimlo’n gartrefol ac yn hyderus gyda fy syniad busnes ac nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth”

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Ar hyn o bryd mae Hannah yn sefydlu cysylltiadau â busnesau eraill i gynnig y cyrsiau harddwch drwy eu gwefannau, ynghyd â datblygu porth sgwrsio drwy ei gwefan ei hun, fel y gall gysylltu â’i darpar fyfyrwyr ar lefel fwy personol.

Mae wedi cysylltu â therapyddion yn y cyfryngau ac mae’n awyddus i gymryd rhan mewn sioe deledu ond nodau Hannah ar gyfer y dyfodol yw bod yn berchen ar ei safle ei hun i gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynnig prentisiaethau sy’n berthnasol i’r diwydiant harddwch.

Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol a gefnogir gan y llywodraeth sydd ar gael i unigolion dros 18 sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnes yn y DU. Prif nod y Benthyciadau Dechrau Busnes yw sicrhau bod busnesau newydd dichonadwy yn cael mynediad at y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Os ydych yn derbyn benthyciad, byddwn yn eich cefnogi chi drwy eich taith, ac yn darparu mentor busnes i chi am 12 mis o’r dyddiad rydych yn derbyn eich benthyciad. Mae Benthyciadau Dechrau Busnes ar gael i fusnesau sydd ar fin lansio, neu’r rheiny sydd wedi bod yn masnachu am hyd at 24 mis.

Dysgwch fwy am Fenthyciadau Cychwyn Busnes a gwneud cais ar-lein