Canolfan Fenter Canolbarth Cymru yn Cyrraedd Uchelfannau Newydd

19/03/21

Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd wedi cyrraedd y ffigurau uchaf erioed yn 2021 yn barod.

Yn dilyn cyfnod eithriadol o dwf, mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd wedi cyrraedd y ffigurau uchaf erioed ym mis Chwefror, gan dynnu sylw at y cynnydd yn y galw am gymorth busnes i fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.

Mewn 28 diwrnod, croesawodd tîm yr Hwb dros 450 o ddigwyddiadau rhithwir gyda 179 o’r rheini’n rhai newydd, wedi cwblhau 21.5 awr o weithdai dros 10 digwyddiad, 23 awr o gymorth un-i-un gyda’u Cynghorydd Busnes ac wedi cyflawni 100 o gofrestriadau ar gyfer un digwyddiad yn unig.

“Roedd mis Chwefror yn fis gwych, yn llawn digwyddiadau ysbrydoledig i’r Hwb. Fe wnaethon ni groesawu wynebau newydd a chefnogi cymaint o fusnesau newydd,” meddai Rheolwr yr Hwb, Holly Jones. “Rydym hefyd wedi cynnal ein cynhadledd rithwir gyntaf, Ganddi’r Gallu i Gychwyn, gyda dros 100 o gofrestriadau, sef y mwyaf ar gyfer un digwyddiad Hwb yn y Drenewydd. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cwblhau dosbarth meistr ar-lein, dros dridiau, wedi’i neilltuo ar gyfer adeiladu gwefannau, lansio gweithdy Instagram pum wythnos sy’n gweld dros 80 o fynychwyr yn cofrestru bob wythnos, ac rydym yn paratoi i ailagor yr Hwb ar gyfer cydweithio cyn gynted ag y bydd cyfyngiadau’r llywodraeth yn llacio.”

Ond nid mis Chwefror yn unig sydd wedi bod yn llwyddiannus i’r Hwb. Dros y 12 mis diwethaf, maent wedi croesawu tri aelod newydd o staff i gefnogi’r galw cynyddol am wasanaethau’r Hwb. Mae Lucie Andrews wedi ymuno fel Cydlynydd Ymgysylltu newydd yr Hwb Menter. Mae hi’n gyfrifol am gydlynu a hyrwyddo rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr i’r Hwb, yn ogystal ag ymgysylltu â’r gymuned a sefydlu perthnasoedd allweddol.

Ymunodd Josh Summers a Rosie Evans â’r tîm hefyd yn 2020 fel Cydlynwyr newydd yr Hwb. Eu rôl yw bod y pwynt cyswllt cyntaf i gleientiaid newydd, a’u cyfeirio at y gwahanol wasanaethau y mae’r Hwb yn eu cynnig.

Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd yn lle arloesol i annog a sbarduno busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu wedi’i leoli yn Royal Welsh Warehouse, y Drenewydd, Powys. Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.