Pecyn yn llawn moethusrwydd

28/07/20

Abigail yw sylfaenydd balch Welsh Luxury Hamper Company wedi’i leoli yng Nghas-gwent. Mae’n cynnig hamperi moethus yn llawn cynnyrch lleol o bob cwr o Gymru, wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth a thirwedd hardd y wlad.

Wedi’i gychwyn llai nag wyth mis yn ôl, mae’r busnes wedi bod yn hynod brysur yn ystod y cyfnod clo. Ers hynny, mae wedi cychwyn cyflenwi dau gleient corfforaethol arall gyda chontractau parhaus, a chynnydd sylweddol mewn gwerthiannau ar-lein.

Mae Abigail wedi sicrhau cyfle i weithio gyda John Lewis o fis Rhagfyr ymlaen, yn darparu siop ‘pop-up’, ac ar hyn o bryd mae hi mewn trafodaethau â Fine & Country a nifer o gwsmeriaid corfforaethol eraill. Ar ben hyn, derbyniodd Welsh Luxury Hamper Company wobr Anrheg Gorfforaethol a Moethus Orau 2020 – Cymru, gan Wobrau Menter y DU yn ddiweddar.

“Mae erioed wedi bod yn freuddwyd gennyf i fod yn berchennog ar fusnes Cymreig llwyddiannus sy’n cefnogi busnesau eraill. Mae’r cynnyrch yn cael eu dewis yn ofalus, ac yn cynrychioli’r wlad hyfryd lle cefais fy magu.”

Sut wnaeth Benthyciadau Dechrau Busnes helpu i wireddu syniad Abigail

Bu i Busnes mewn Ffocws gefnogi Abigail i sicrhau benthyciad o £9,000 gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes i lansio ei menter newydd. Yn ogystal â chymorth ariannol, derbyniodd Abigail gymorth mentora gan yr ymgynghorydd busnes profiadol Craig Tamplin, a chafodd ei atgyfeirio at Busnes Cymru am gyngor ynglŷn â chyflogaeth.

Wrth i bandemig y coronafeirws ledaenu ar draws y genedl, nid oedd y busnes yn gymwys i dderbyn unrhyw grantiau, ac felly cafodd Abigail wyliau rhag ad-dalu gan y Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes i sicrhau bod y cwmni yn gallu parhau i fasnachu drwy’r cyfnod clo.

“Mae’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes a Busnes Cymru wedi fy nghefnogi ar hyd y daith hon, ac rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gyda’u gwasanaethau. Nid oedd gennyf unrhyw brofiad blaenorol o reoli busnes, felly roeddwn yn gwerthfawrogi cael fy mentora gan arbenigwyr proffesiynol”

Eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Bu i Covid-19 greu dyfodol ansicr iawn i’r busnes, ond gyda help llaw grant Cymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog, mae Abigail wedi bod ddigon ffodus i gynnal y busnes drwy’r pandemig, yn ogystal ag ennill hyder i weithio ar arallgyfeirio’r busnes a datblygu rhai cynnyrch cyffrous, newydd. Y cynnig diweddaraf yw Hamperi Blwch Llythyrau Moethus Cymreig fforddiadwy, ar gael i gynulleidfa ehangach, ac yn wasanaeth di-gyswllt, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi”

Beth yw Benthyciad Dechrau Busnes?

Mae Benthyciad Dechrau Busnes yn fenthyciad personol a gefnogir gan y llywodraeth sydd ar gael i unigolion dros 18 sy’n ceisio cychwyn neu dyfu busnes yn y DU. Prif nod y Benthyciadau Dechrau Busnes yw sicrhau bod busnesau newydd dichonadwy yn cael mynediad at y cyllid a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

 

Mae’n llawer mwy na chymorth ariannol…